Cyllid ychwanegol i helpu ysgolion yn ystod y pandemig
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Mawrth 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn miloedd o bunnoedd o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu ysgolion i lywio’r heriau maent yn eu hwynebu oherwydd pandemig Covid-19.
Hyd yn hyn, mae tua £4m wedi ei dderbyn ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysg eraill a disgwylir cyllid pellach yn 2021-22.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £72miliwn ychwanegol i gefnogi adferiad dysgu a chynnydd pellach mewn ysgolion. O hyn, mae £33miliwn wedi ei ddyrannu i 2020-21, gyda’r gweddill ar gyfer 2021-22. Mae tua £1.55miliwn wedi ei ddyrannu i ysgolion a meithrinfeydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r cyllid yn cynnwys adnoddau dysgu a chymorth ychwanegol ar gyfer plant oed sylfaen mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant sy’n cynnig addysg gynnar. Bydd cymorth hefyd yn cael ei dargedu at ddysgwyr ym mlynyddoedd 11, 12 a 13, i gynnig help ychwanegol wrth iddynt symud ymlaen at y cam nesaf.
Mae £50miliwn ychwanegol hefyd wedi ei gyhoeddi ar gyfer gwelliannau mewn adeiladau ysgolion ledled Cymru.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn tua £2.3miliwn o’r gronfa hon, sy’n caniatáu awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar brosiectau cynnal a chadw graddfa fawr, fel ailosod toeau, systemau ffenestri newydd neu waith gwresogi ac awyru. Mae'n ychwanegol at raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Mae’r cyngor hefyd wedi derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer pethau fel gorchuddion wyneb ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd sy’n dychwelyd i’r ystafell ddosbarth, deunyddiau glanhau ychwanegol ac offer eraill i sicrhau bod ysgolion yn parhau mor ddiogel o ran Covid â phosibl.
Yn ychwanegol, mae buddsoddiad wedi ei wneud i ganiatáu ysgolion i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi dysgwyr, yn ogystal â chynnig cymorth ychwanegol i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac ymestyn mynediad at y Grant Datblygu Disgyblion.
Yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod hynod o anodd ar gyfer staff, dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr, rwy’n croesawu’r cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i liniaru effeithiau’r pandemig.
Wrth i blant ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, bydd y cyllid hwn yn ein helpu i sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn ei lle ar eu cyfer.
Mae ysgolion yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn parhau i fod mor ddiogel â phosibl ar gyfer disgyblion wrth iddynt ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth, ac rwy’n diolch i staff am eu hymdrechion wrth addasu i natur newidiol y sefyllfa.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio