Cyllid ychwanegol ar gael i fusnesau
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 10 Chwefror 2021
Mae cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi busnesau ac unig fasnachwyr sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i reoli lledaeniad coronafeirws.
Mae estyniad y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yn cynnwys un taliad ychwanegol drwy'r grantiau Graddau Annomestig (NDR) ar gyfer busnesau masnach annomestig, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 25 Ionawr 2021 tan 31 Mawrth 2021.
Mae busnesau nad ydynt ym gymwys ar gyfer grant cyfraddau annomestig yn gallu parhau i wneud ceisiadau i awdurdodau lleol ar gyfer Grant Dewisol hyd at £2,000. Bydd hyn hefyd yn cynnwys y cyfnod tan ddiwedd mis Mawrth 2021.
Grantiau Cyfraddau Annomestig (NDR)
Bydd y busnesau a gofrestrodd, ac a dderbyniodd grant gan Gronfa Fusnesau dan Gyfyngiadau, ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2020 a Ionawr 2021, yn derbyn un taliad awtomatig ar gyfer y swm perthnasol yn eu cyfrif banc fis Chwefror.
Bydd y busnesau hynny sy'n gymwys ar gyfer y grant NDR, na dderbyniodd y grant ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2020 - Ionawr 2021, angen gwneud cais, a bydd ceisiadau yn agor ar wefan cymorth i fusnesau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o brynhawn heddiw (dydd Mercher 10 Chwefror).
I wirio a fydd eich busnes yn derbyn taliad awtomatig, neu a ydych angen gwneud cais, ewch i'r dudalen cymorth i fusnesau ar wefan y cyngor o brynhawn heddiw. Byddwch angen eich rhif cyfeirnod cyfraddau.
Bydd busnesau masnach nad ydynt yn hanfodol, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n derbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBRR), gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, yn gymwys i dderbyn taliad o £3,000. Bydd busnesau cadwyn gyflenwi sy'n cymhwyso ar gyfer SBRR hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn, os ydynt wedi profi gostyngiad mwy na 40% mewn trosiant yn ystod y cyfnod dan gyfyngiadau.
Bydd busnesau masnach nad ydynt yn hanfodol, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 hefyd yn gymwys i dderbyn taliad o £5,000 os ydynt wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau. Bydd busnesau cadwyn gyflenwi yn yr un braced gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn, os ydynt wedi profi gostyngiad mwy na 40% mewn trosiant yn ystod y cyfnod dan gyfyngiadau.
Bydd busnesau masnach nad ydynt yn hanfodol, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth gyda gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £150,000 hefyd yn gymwys i dderbyn taliad o £5,000 os ydynt wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau. Bydd busnesau cadwyn gyflenwi yn yr un braced gwerth ardrethol hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn, os ydynt wedi profi gostyngiad mwy na 40% mewn trosiant yn ystod y cyfnod dan gyfyngiadau. Mae'r grant yn cynnwys categori newydd o fusnesau sy'n meddiannu eiddo gyda gwerth ardrethol rhwng £150,001 a £500,000.
Grantiau Dewisol
Mae grant dewisol o £2,000 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd wedi cael eu gorfodi i gau o ganlyniad i'r cyfyngiadau cenedlaethol a gyflwynwyd.
Bydd y grant yn cefnogi busnesau sy'n amcangyfrif y bydd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn arwain at ostyngiad o o leiaf 40% yn eu trosiant, o gymharu â chyfnod masnachu heb gyfyngiadau cyfwerth cyn 23 Mawrth 2020.
Bydd busnesau angen cyflwyno cais i'r gronfa drwy dudalen cymorth i fusnesau yr awdurdod lleol o brynhawn heddiw (dydd Mercher 10 Chwefror).
Bydd unrhyw ymgeiswyr a gychwynnodd fasnachu ar ôl 23 Mawrth 2020 angen datgan (ac efallai y gofynnir iddynt ddangos) gostyngiad o 40% mewn trosiant ar gyfer cyfnod masnachu cyfwerth ers iddynt gychwyn y busnes.
Nid ydych yn gymwys ar gyfer y grant hwn os:
- Ydych yn gymwys am, neu wedi derbyn, Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud gan eich awdurdod lleol
- Yw'r busnes yn cynhyrchu llai na 50% o'ch incwm. Rhaid i'r busnes fod yn brif ffynhonnell incwm i chi.
- Rydych yn gymwys am daliad 'ychwanegol' drwy'r Gronfa Gweithwyr Llawrydd estynedig - bydd rhagor o fanylion ar gael yn hwyrach ymlaen yn ystod yr wythnos.
- Mae cyfanswm nifer y grantiau cymorth Covid-19 rydych wedi'u derbyn (yn cynnwys unrhyw ddyfarniad pellach drwy'r gronfa ddewisol hon) yn mynd y tu hwnt i 80% o'n trosiant ar gyfer blwyddyn fasnach arferol.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: "Maer cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael i gefnogi busnesau ac unig fasnachwyr sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol a gyhoeddwyd gan Weinidog Cymru ar 29 Ionawr.
"Mae cannoedd o fusnesau ledled y fwrdeistref sirol wedi cael cyllid drwy'r cynllun grant hwn ac rydym yn annog unrhyw gwmnïau cymwys eraill nad ydynt wedi gwneud cais i wneud hynny.
"Mae'n gyfnod pryderus i nifer o fusnesau - mae bron i £40miliwn wedi cael ei ddosbarthu i fusnesau lleol ers cychwyn y pandemig, ac rydym yn parhau i weithio'n gyflym i sicrhau bod busnesau'n derbyn y grantiau hyn yn yr amser cyflymaf bosib.
"Gofynnwn yn garedig i fusnesau beidio â chysylltu â'r cyngor i wirio cynnydd cais gan y gall ohirio'r broses.
"I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau, ewch i dudalen cymorth ariannol y cyngor."
Prosesir ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin. Gall hyn arwain at beidio ag ystyried ceisiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw'r gronfa wedi'i dyrannu'n llawn. Hysbysir ymgeiswyr o hyn drwy e-bost.
Bydd ceisiadau grant wedi'u cwblhau yn cael eu prosesu o fewn 30 diwrnod ar ôl eu derbyn.