Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyllid ar gael i wella siopau sydd wedi gweld dyddiau gwell

Bydd perchnogion siopau gwag a rhai sydd wedi gweld dyddiau gwell yng nghanol trefn Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu targedu mewn cynllun newydd sy’n gobeithio adfywio’r ardal.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi sicrhau tua £1m gan raglen ‘Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio’ Llywodraeth Cymru. Gall perchnogion eiddo a thenantiaid tymor hir wneud cais am yr arian hwn i adfywio eu hadeiladau.

Bydd y Cyngor yn marchnata’r cyllid sydd ar gael drwy ganfasio pob eiddo cymwys yng nghanol y dref, a bydd yn ymgysylltu’n rhagweithiol â pherchnogion eiddo gwag i gefnogi'r uchelgais o roi defnydd i'r eiddo unwaith eto.

Mae rhywfaint o gyllid y rhaglen eisoes wedi’i roi ar waith drwy waith cyfredol Coastal Housing Group o ailddatblygu’r hen McDonald’s ar Nolton Street.

Mae’r cynllun, a fydd yn darparu deg cartref fforddiadwy newydd a hyd at dair uned fasnachol, wedi cael ei gefnogi gan £304,366 o gyllid Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn ogystal â grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru.

Bwriad rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru yw adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, a wnaeth helpu i ariannu maes parcio newydd y Rhiw ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Mae hefyd yn cyd-fynd â’n Strategaeth Eiddo Gwag.

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys y sector preifat a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, i gyflenwi prosiectau newydd a fydd yn gwneud canol y dref yn lle mwy llewyrchus.

O ran y buddion yn y tymor byr, bydd eiddo annymunol o ansawdd gwael, sydd wedi adfeilio ac wedi gweld dyddiau gwell, yn cael eu gwella a’u hailddefnyddio. Yn y tymor hir, bydd yn gwella ymddangosiad canol y dref, bydd siopau’n ffynnu, a bydd nifer uwch yr ymwelwyr yn creu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth.”

Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio

Bydd cyllid y rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gael i gynlluniau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr y gellir eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2021.

I gael rhagor o fanylion, anfonwch e-bost i regeneration@bridgend.gov.uk neu rhowch alwad i dîm adfywio’r Cyngor ar 01656 815209.

Chwilio A i Y