Cyllid ar gael i helpu i gynhesu eich cartref dros y gaeaf
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 14 Ionawr 2022
Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i fanteisio ar gyllid gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu i gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn.
Cafodd y cynllun ei ddylunio i gefnogi aelwydydd cymwys gyda’r gost o wresogi eu cartrefi drwy gydol y gaeaf. Mae’n cynnig taliad untro o £100 ac yn ffurfio rhan o fenter gwerth £38m sy’n cael ei chyflwyno ledled Cymru.
Mae’r cynllun ar gael i aelwydydd lle mae unigolyn yn hawlio budd-dal cyffredinol, cymorth incwm, credydau treth gwaith, budd-daliadau llesiant yn seiliedig ar brawf modd, lwfans ceisio gwaith sy’n berthnasol i incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth.
Mae miloedd o drigolion lleol a oedd yn gymwys eisoes wedi manteisio ar y cyllid hwn, ac yn cael cymorth i gadw eu cartrefi’n gynnes.
Caiff y taliad untro ei dalu p'un a delir am danwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy fil chwarterol. Mae ychydig dros bedair wythnos ar ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais ar 18 Chwefror felly ewch amdani - gallwch gael gwybod a ydych yn gymwys heddiw.
Gallwch gyflwyno cais ar-lein drwy gyfleuster ‘Fy Nghyfrif’ y cyngor sydd am ddim ac mae’n hawdd cofrestru arno - yn syml, cwblhewch y ffurflen ar-lein a nodwch gyfeiriad e-bost dilys.
Dirprwy Arweinydd Hywel Williams
Gallwch wneud cais a chael rhagor o wybodaeth ar y dudalen cymorth tanwydd dros y gaeaf.