Cyhoeddi sesiwn galw heibio ar gyfer prosiect traeth tref gwerth £3 miliwn
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 16 Chwefror 2018
Wrth i waith ddechrau ar y promenâd isaf ar draeth tref Porthcawl, mae sesiwn galw heibio wedi’i threfnu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion ac ymwelwyr am y cynllun gwerth £3 miliwn.
Bydd y sesiwn, a drefnwyd gan y contractwr Alun Griffiths, yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl ddydd Mawrth 27 Chwefror rhwng 3.30pm a 7pm, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau a gweld darlun arlunydd o sut y bydd y prosiect terfynol yn edrych.
Y bwriad yw adeiladu amddiffynfeydd newydd rhag y môr yn lle’r hen rai ar ‘draeth tarmac’ y dref er mwyn gallu parhau i amddiffyn y 260 o eiddo a busnesau glan môr rhag llifogydd ac erydiad arfordirol. Bydd y gwaith yn cyflwyno cynllun teras deniadol newydd sbon ag wyneb lliw tywod.
Bydd y sesiwn wybodaeth hefyd yn cyd-daro â chau’r promenâd isaf er mwyn ei gwneud hi’n bosibl cael gwared ar ddarnau mawr o’r morglawdd ac adeiladu rhai newydd yn eu lle.
Bydd traeth y dref yn dod yn safle mwyfwy prysur yn ystod y misoedd nesaf, a gall ymwelwyr ddisgwyl gweld y gwaith cloddio ar y traeth presennol, gwaith atgyweirio a gosod wyneb newydd ar y rampiau mynediad, gosod terasau concrit newydd sbon, atgyweirio’r morglawdd presennol, adeiladu amddiffynfa creigiau a llawer mwy.
Gwneir pob ymdrech i achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl pan fydd y gwaith yn cael ei wneud, a bydd y prosiect yn darparu buddion ychwanegol, gan gynnwys swyddi newydd a chyfleoedd hyfforddi, yn ogystal â chymorth i fusnesau lleol.
Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau.
Dewch i’r sesiwn wybodaeth ym Mhafiliwn y Grand i gael gwybod mwy, neu ewch i wefan Alun Griffiths i gael rhagor o fanylion.
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.