Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyhoeddi rhybudd i fandaliaid ac unigolion sy'n tipio'n anghyfreithlon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhybuddio y bydd yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy'n cyflawni troseddau fel fandaliaeth, tipio'n anghyfreithlon, cynnau tanau'n fwriadol a throseddau eraill yn ystod pandemig y coronafeirws COVID-19.

Mae'n dilyn nifer o ddigwyddiadau bach o amgylch safleoedd ysgolion sy'n destun ymchwiliad, cynnydd yn y maint o wastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon y mae'r awdurdod yn ei glirio, tanau gwair yng Nghwm Llynfi, ac atafaelu nifer o gerbydau oddi ar y ffordd gan Heddlu De Cymru.

Mae ein system teledu cylch cyfyng yn dal i fod ar waith ar draws y fwrdeistref sirol, ac yn ogystal â chefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu De Cymru, mae'n helpu i ganfod troseddau a'u hatal rhag digwydd. Mae aelodau o'r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig wrth adrodd gweithgarwch amheus, a helpu i sicrhau y gellir dwyn y rhai sy'n gyfrifol i gyfrif.

Mae'n arbennig o anghyfrifol cynnau tanau yn ystod y pandemig gan y bydd unrhyw beth sy'n effeithio ar ansawdd aer yn cael effaith ddifrifol ar bobl sy'n dioddef o'r feirws, ac a allai fod yn cael trafferth yn anadlu. Mae Heddlu De Cymru'n atafaelu cerbydau oddi ar y ffordd oddi wrth bobl sy'n manteisio ar gyfyngiadau symud i fentro allan yn groes i gyngor y llywodraeth, ac mae mesurau diogelwch yn eu lle mewn ysgolion lleol er mwyn helpu i ganfod ac adnabod unrhyw un sy'n tresmasu neu sy’n gyfrifol am ddifrod troseddol ar safleoedd ysgolion.

Nid oes unrhyw angen ychwaith i dipio'n anghyfreithlon gan fod ein hymchwiliadau wedi cadarnhau y gallai'r mwyafrif o wastraff o'r fath fod wedi'i roi allan ar gyfer ei ailgylchu, neu ei gasglu fel rhan o'n gwasanaeth casglu gwastraff swmpus, sy'n parhau i redeg er gwaethaf y pandemig. Gofynnwn i unrhyw un sy'n sylwi ar ymddygiad amheus neu droseddol ei adrodd ar unwaith drwy ffonio'r heddlu ar 101 neu Crimestoppers ar 0800 555 111. Mae'r pandemig yn bell o fod drosodd, ac rydym i gyd yn wynebu hyn gyda'n gilydd – mae angen arnom i gymunedau lleol ddod at ei gilydd a chefnogi ein gilydd yn awr, yn fwy nag erioed.

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Chwilio A i Y