Cyhoeddi prosiectau newydd mawr i ddatblygu’r Gymraeg
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 02 Mawrth 2022
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer 11 o brosiectau cyfalaf newydd ledled Cymru i gefnogi twf y Gymraeg.
Bydd dau o'r prosiectau'n cael eu cynnal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac maen nhw’n cynnwys cynlluniau ar gyfer 'egin' ysgol neu ysgol ddechreuol cyfrwng Cymraeg gwerth £3.25m ar gyfer ardal Porthcawl ac ystafell ddosbarth symudol ddwbl gwerth £270,000 yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr i fynd i'r afael â'r galw ar unwaith am leoedd. Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch ehangu arfaethedig yr ysgol.
Mae enwi'r prosiectau hyn yn dilyn proses ymgeisio a fydd yn eu gweld yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses achos busnes a gwneud cais am gyllid gan y Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg.
Mae cyllid wedi'i anelu at gynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd a chefnogi trochi yn gynnar yn yr iaith yn ogystal â helpu dysgwyr o bob oed i wella eu sgiliau a'u hyder yn y Gymraeg.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg: "Mae ehangu cyfleoedd i gyrchu addysg cyfrwng Cymraeg yn gwbl ganolog i dwf ein hiaith ac i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn ein bywydau o ddydd i ddydd.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg drwy gynyddu capasiti mewn ysgolion a chefnogi'r cynnydd mewn trochi yn y Gymraeg.
"Bydd y buddsoddiad yn ategu ein cynlluniau i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg staff mewn ysgolion cyfrwng Saesneg."
Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer dau brosiect ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r ddau brosiect yn dangos ein hymrwymiad yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i hyrwyddo'r Gymraeg a gweithio tuag at nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol, a hyrwyddwr y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd £1.2m ychwanegol yn cael ei ddarparu i'r Urdd ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, i gefnogi'r mudiad ieuenctid i barhau â'i weithgareddau, sydd wedi cael eu tarfu gan Covid-19.
Bydd y cyllid yn cefnogi rhwydwaith o swyddogion datblygu'r Urdd ledled Cymru, yn ogystal â darparu cymorth newydd ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.