Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth poster gwrth-sbwriel ysgol

Mae disgybl o Ysgol Gynradd Betws wedi’i chyhoeddi fel enillydd cystadleuaeth poster gwrth-sbwriel ‘Ei Charu a'i Chadw'n Lân’ eleni.

Mae dyluniad buddugol Sienna Sanford yn cynnwys cymeriad cartŵn lliwgar yn siâp y Ddaear, yn cario bin gwastraff sy’n llawn sbwriel, gyda sloganau yn annog pobl i Beidio â Thaflu Sbwriel, i Fod yn Dda, ac i Achub y Byd.

Aeth y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Martyn Jones, i ymweld â’r ysgol i longyfarch yr enillydd ddydd Gwener 21 Ionawr, ac i gyhoeddi’r poster terfynol sydd wedi’i wneud yn arwydd proffesiynol i’w arddangos yng Nghwm Garw.

Aeth y Dirprwy Faer i weld â thair ysgol arall a oedd yn cymryd rhan - Ysgol Gynradd Tynyrheol, Ysgol Gynradd Ffaldau ac Ysgol Gynradd Blaengarw, er mwyn llongyfarch pawb a gymerodd rhan yn y gystadleuaeth.

Unwaith eto, mae ymgyrch Ei Charu a'i Chadw'n Lân wedi bod yn llwyddiant aruthrol, ac mae disgyblion ledled y fwrdeistref wedi mwynhau'r cyfle i ddysgu mwy am yr amgylchedd.

Llongyfarchiadau gwresog i Sienna, y mae ei phoster yn cyflwyno neges bwysig ac effeithiol sy’n annog pawb i ddiogelu ein hamgylchedd.

Mae'n braf gweld cymaint o frwdfrydedd ymysg disgyblion, a'u hymrwymiad i helpu i gadw ein cymunedau'n ddi-sbwriel.

Dirprwy Faer, y Cynghorydd Martyn Jones

Dyma’r pumed gystadleuaeth boster lwyddiannus i gael ei chynnal ers 2019, gydag ysgolion ym Mhorthcawl, y Pîl a Chorneli, Bracla, a Chwm Ogwr y llynedd, yn cymryd rhan. Ysgol Gynradd Abercerdin oedd yr ysgol fuddugol y tro diwethaf.

Unwaith eto, mae’r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Nature Quest a ddyluniodd becyn offer digidol ar gyfer y disgyblion, gan ganolbwyntio ar y broblem o daflu sbwriel ac ail-gylchu gwastraff, yn ogystal â gweithdai rhyngweithiol ac ymarferion codi sbwriel yn yr ardal leol.

Sienna Sanford gyda'i poster buddugol

Chwilio A i Y