Cyhoeddi enillwyr lleol Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu 2020
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 10 Mawrth 2020
Mae enillwyr y Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu, sydd yn eu pedwaredd flwyddyn ar ddeg, ac a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi'u datgelu.
Wedi'u trefnu gan dîm rheoli adeiladu'r cyngor, cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni ddiweddar yn y swyddfeydd dinesig gan Stuart Baldwin, sef maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, arweinydd y cyngor, Huw David, a'r pennaeth cynllunio, Jonathan Parsons.
Gan ganolbwyntio ar adeiladau o ansawdd uchel, roedd pedwar categori i'r gwobrau, a cafodd enillwyr pob categori eu beirniadu ar sail eu hadeiladwaith a'u rhagoriaeth dechnegol:
Categori 1: Newid defnydd gorau i adeilad presennol neu adeilad wedi’i drawsnewid
Bradford Construction Limited ar gyfer newid defnydd o ddwy ysgubor laeth i dri thŷ ar fferm yn Nhrelales.
Categori 2: Adeilad gwasanaethau cyhoeddus neu adeilad addysgol gorau
Henstaff Construction Ltd ar gyfer pafiliwn chwaraeon a chanolfan gymunedol Bryncethin, caeau chwarae Bryncethin.
Categori 3: Adeilad cymunedol mawr gorau
Henstaff Construction Ltd ar gyfer y Ganolfan Chwaraeon Dŵr, Rest Bay, Porthcawl.
Categori 4: Partneriaeth orau
Mike Aubrey am ei bartneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar nifer o wahanol brosiectau dros y ddwy flynedd diwethaf, yn cynnwys trawsnewid dau fflat yn un tŷ yng Nghasnewydd, a
thrawsnewid hen dŷ coets yng Nghaerdydd yn dŷ. Fel rhan o gynllun codi incwm ar gyfer y cyngor, mae
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwirio cynlluniau prosiectau Mr Aubrey ar gyfer rhannau eraill o Gymru cyn eu cyflwyno i'r awdurdodau rheoli adeiladu lleol perthnasol.
Gwobr cynllunio arbennig
EPT Partnership ar gyfer y Ganolfan Chwaraeon Dŵr, Rest Bay, Porthcawl.
Bydd yr enillwyr nawr yn mynd ymlaen i Wobrau Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol (LABC) ar gyfer de Cymru, a gaiff eu cynnal yn y Vale Resort, Hensol, ar 1 Mai 2020.
Caiff ceisiadau buddugol de Cymru wedyn gyfle i gael eu cydnabod ar lefel genedlaethol yng Ngwobrau Adeiladu Cenedlaethol Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol yn Llundain lle y byddant yn cystadlu yn erbyn ceisiadau o weddill y DU.
Holl ddiben y Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu yw annog arfer adeiladu rhagorol, a'n ffordd ni ydynt o gydnabod adeiladwyr sy’n mynd gam ymhellach.
Mewn byd lle mae cynnydd a newid mewn rheoliadau, ac arloesi fwyfwy cyflym mewn technolegau adeiladu, mae ein hadeiladau heddiw'n fwy cymhleth ar y tu mewn nag erioed o’r blaen.
Hoffwn longyfarch holl enillwyr y Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu eleni a dymuno'r gorau iddynt yn y rowndiau rhanbarthol a chenedlaethol.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David