Cyhoeddi Arweinydd a Chabinet yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 18 Mai 2022
Mae aelodau newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno pwy fydd yn ymgymryd â rôl yr Arweinydd a rolau’r Cabinet ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Ar ôl yr etholiadau lleol diweddar, daethant at ei gilydd am y tro cyntaf fel corff ffurfiol ar ddydd Mercher 18 Mai ar gyfer cyfarfod blynyddol y Cyngor.
Dewiswyd y Cynghorydd Martyn Jones i weithredu fel Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a’r Cynghorydd William Kendall i weithredu fel Dirprwy Faer.
Cafodd y Cynghorydd Huw David ei ail-ethol fel Arweinydd yr awdurdod eto eleni, a chytunwyd ar swyddi portffolio'r Cabinet fel a ganlyn:
- Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol - y Cynghorydd Jane Gebbie
- Aelod Cabinet dros Addysg - y Cynghorydd Jon-Paul Blundell
- Aelod Cabinet dros Gymunedau - y Cynghorydd John Spanswick
- Aelod Cabinet dros Adfywio - y Cynghorydd Neelo Farr
- Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol - y Cynghorydd Rhys Goode
- Aelod Cabinet dros Adnoddau - y Cynghorydd Hywel Williams
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Rwy’n falch o fod wedi llunio Cabinet sy’n cyfuno profiad â newid. Bydd hyn yn ein galluogi i fwrw ati’n syth a dechrau gwneud penderfyniadau y byddwn angen eu gwneud yn fuan iawn ar ran trigolion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”
Ychwanegodd y Cynghorydd David: “Fy mhrif nod yw cryfhau rôl yr aelodau wrth ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau, er budd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
“Mae rolau’r Cabinet yn canolbwyntio ar wasanaethau cymdeithasol, tai, cymunedau, cenedlaethau’r dyfodol ac adnoddau (fel yn flaenorol).
“Fy mhrif newid i’r portffolios yw rhoi mwy o bwyslais fyth ar feysydd eang addysg ac adfywio drwy greu dau bortffolio – i adlewyrchu pwysigrwydd hanfodol y meysydd hyn, a'n cydnabyddiaeth o'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â’r ddau.
“Bydd adfywio pellach yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y corff gweinyddol newydd hwn, gan fanteisio ar gyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er budd ein holl gymoedd, Cwm Ogwr, Cwm Llynfi, Cwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Porthcawl a Phencoed.
“Ac wrth gwrs, mae addysg o bwys sylweddol i lesiant a chenedlaethau’r dyfodol, a’r eitem fwyaf yng nghyllideb y cyngor. Bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar ein rhaglen moderneiddio ysgolion y 21ain Ganrif flaenllaw, cwricwlwm newydd a darpariaeth meithrin barhaus am ddim ar gyfer plant 3 blwydd oed.”