Cyfraddau ailgylchu i gynyddu hyd yn oed ymhellach diolch i gontract sbwriel newydd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 05 Awst 2021
Mae disgwyl i newidiadau yn y ffordd mae sbwriel biniau yn cael ei brosesu roi hwb i gyfraddau ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn flaenorol, mae eitemau sydd wedi cael eu rhoi mewn biniau sbwriel cyhoeddus wedi cael eu prosesu a’u troi yn ynni neu wedi’u hanfon i safleoedd tirlenwi, ond yn dilyn newid contractwr, byddant bellach yn cael eu dargyfeirio a’u hailgylchu.
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr un o'r cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru a’r DU eisoes, ac mae ar fin gwella fwy fyth. Rydym wrth ein bodd bod contract newydd gyda Derwen Recycling Ltd wedi ein galluogi i roi hyd yn oed mwy o bwyslais ar ailgylchu.
Yn ystod y degawd diwethaf, mae ein cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu’n sylweddol, a nawr rydym yn ailgylchu 69 y cant o'n gwastraff, o’i gymharu â 46 y cant yn unig yn 2010.
Wrth gwrs, y ffordd orau o drin sbwriel yw mynd â’r sbwriel gartref gyda chi fel y gall gael ei ailgylchu yno - mae hyn hefyd yn atal biniau sbwriel cyhoeddus rhag mynd yn rhy llawn yn ystod y cyfnod gwyliau prysur.
Dirprwy Arweinydd Hywel Williams
Fel rhan o brosiect ar wahân i annog pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb uniongyrchol am y gwastraff y maent yn ei gynhyrchu, mae adolygiad o leoliadau bin sbwriel hefyd ar y gweill.
Gyda thai newydd a nifer o ddatblygiadau eraill ar wahanol gamau o’u datblygiad o amgylch y fwrdeistref sirol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal yr adolygiad i weld a yw biniau sbwriel yn y man cywir i ddiwallu anghenion trigolion lleol, neu a oes angen addasu eu lleoliadau.
Mae’n dilyn ymdrechion diweddar i frwydro yn erbyn taflu sbwriel, trwy brosiectau hynod lwyddiannus fel y fenter ‘Ei Charu a'i Chadw'n Lân!', lansio tîm ymgysylltu â’r gymuned newydd a sefydlu hybiau sbwriel lleol lle gall gwirfoddolwyr gael offer a chyflenwadau.
Mae hybiau sbwriel eisoes ar waith yng Nghanolfan Gymunedol Caerau, swyddfeydd Cyngor Cymuned Pencoed, Caffi Syrffio Traeth Coney a Chanolfan Ieuenctid KPC yn y Pîl.
Bydd hwb newydd yn agor yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay o fewn Academi Traeth Cymru, ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer ymestyn y cynllun i Fracla, Cwm Ogwr, Bryncethin, Porthcawl a Maesteg.