Cyfradd ailgylchu yn rhagori ar y targedau cenedlaethol newydd flwyddyn yn gynnar
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Mai 2018
Rhagorwyd ar dargedau ailgylchu newydd llym Llywodraeth Cymru flwyddyn yn gynnar ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae cyfradd ailgylchu blynyddol y fwrdeistref sirol wedi saethu i fyny o 58 y cant yn 2016-17 i 68.5 y cant yn 2017-18 o ganlyniad i ymdrechion trigolion i fabwysiadu’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu newydd a gyflwynwyd yr haf diwethaf.
Yn sgil hyn, mae’r awdurdod lleol ymhell o flaen targed statudol nesaf Llywodraeth Cymru o 64 y cant ar gyfer faint o wastraff cartref y bydd angen ei ailgylchu yn 2019-20, a bydd yn rhaid i holl gynghorau Cymru gyflawni cyfradd ailgylchu o 70 y cant erbyn 2024-25.
Bydd methu â chyrraedd y targedau hynny yn arwain at ddirwyon mawr o oddeutu £100,000 i awdurdodau lleol am bob un y cant y byddant yn brin o’r targed.
Ym mis Mehefin 2017, cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr derfyn newydd o ddau fag sbwriel ar faint o wastraff y caiff trigolion eu taflu allan bob pythefnos, a dechreuodd gasgliad ar wahân ar gyfer cynhyrchion hylendid amsugnol fel cewynnau, a rhoddwyd cynwysyddion newydd i drigolion i’w gwneud yn haws iddyn nhw fod mor ‘wyrdd’ â phosibl.
Fe wnaethom ni gyflwyno ein trefniadau gwastraff ac ailgylchu newydd fis Mehefin y llynedd oherwydd na fyddai ein hen system ochr y ffordd yn ddigonol i gyrraedd y targedau ailgylchu llym newydd hyn.
Pan oedd yr hen system ar waith, dim ond prin gyflawni’r targed ailgylchu presennol o 58 y cant oeddem ni, ond roeddem ni’n gwybod bod angen newidiadau mawr i gynyddu’r gyfradd a lleihau faint o sbwriel yr ydym yn ei daflu i’r safle tirlenwi.
Fe wnaethom ni dderbyn yr her i ailgylchu mwy ac rydym ni wrth ein boddau gydag ymateb y trigolion lleol. Nid yw cyflwyniad y system newydd wedi bod heb ei ddiffygion, ond mae ei heffaith yn amlwg wrth i ni gofnodi ein cyfradd ailgylchu flynyddol uchaf erioed.
Cynghorydd Hywel Williams
“Gan fod ffigur 2017-18 yn cynnwys dau fis cyn cyflwyno’r trefniadau newydd, rydym yn gobeithio gweld ffigur uwch fyth yn 2018-19.”
Rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, ailgylchodd y 63,600 o aelwydydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 34.7 y cant yn fwy o wastraff bwyd nag yn ystod y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd y ganran ailgylchu papur gan 35.9 y cant, ac ailgylchodd y trigolion 30.9 y cant yn fwy o blastigau a metelau yn eu sachau ailgylchu glas. Fe wnaeth cartrefi hefyd ailgylchu 13.9 y cant yn fwy o wydr a chynyddodd cyfanswm y cardfwrdd a ailgylchwyd gan 3 y cant.
Cafwyd cynnydd sylweddol o 43.2 y cant o ran y tunelli o wastraff gardd a gasglwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chasglwyd cyfanswm o 755 tunnell o gynhyrchion hylendid amsugnol (gan gynnwys cewynnau) drwy’r casgliadau bag porffor newydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Williams: “Ar sail y canlyniadau hyn, mae’n amlwg bod y trigolion eisoes wedi arfer ailgylchu eu cardfwrdd a’u gwydr yn effeithlon iawn, ond rydym ni wedi gweld gwelliant anferthol wrth ailgylchu pob deunydd arall.
“Roedd hi’n rhy gyfleus o’r blaen i bobl roi beth a fynnon nhw yn y bin, ac roedd llawer o bobl nad oedden nhw’n gwneud unrhyw ymdrech i ailgylchu rhai deunyddiau oherwydd nad oedd angen iddyn nhw wneud hynny. Erbyn hyn, mae trigolion yn newid eu harferion, yn sylweddoli ei bod yn gymharol hawdd dod i arfer mwy gwyrdd, a hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion eithriadol
“Mae llawer o wleidyddion wedi dweud wrthym na fyddai’r terfyn o ddau fag yn gweithio, ond mae trigolion wedi eu profi yn anghywir. Fel y dangosir yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mewn llawer o awdurdodau lleol eraill, mae rhoi terfynau ar wastraff yn sicr wedi arwain at y canlyniadau a ddymunid wrth wneud i bobl ystyried pa un a oes modd iddyn nhw wneud mwy i leihau eu gwastraff ac ailgylchu cymaint â phosibl.”
Mae rhagor o fanylion am ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael ar wefan ailgylchu Pen-y-bont.