Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfnod canfasio etholiadol yn cychwyn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r cyfnod canfasio etholiadol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei lansio a bydd yn mynd drwy gyfres o gamau rhwng nawr a mis Tachwedd.

Bwriad y cyfnod canfasio yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfredol a bod yr holl bobl sy’n gymwys i bleidleisio yn cael eu cynnwys arni. Bydd y broses yn cychwyn drwy anfon e-bost at dros 20,600 o gartrefi a roddodd fanylion cyswllt e-bost fel rhan o’r cyfnod canfasio y llynedd.

Bydd yr e-bost yn cael ei anfon gan Idox, y darparwr meddalwedd etholiadol, a bydd yn gofyn i bobl gadarnhau bod eu manylion yn gywir.

Mae’r e-bost hwn wedi'i ddylunio i’w gwneud mor hawdd â phosib i bobl gymwys sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol newydd. Pan fydd cam cyntaf y cyfnod canfasio blynyddol yn dod i ben ddiwedd mis Gorffennaf, bydd ffurflenni yn cael eu danfon i’r holl gartrefi sydd ar ôl, gan gynnwys rhai nad ydynt wedi ymateb i’r e-bost.

Bydd y ffurflenni’n cael eu cyflwyno mewn dau gam; bydd y swp cyntaf yn cyrraedd rhwng 26 Gorffennaf a 4 Awst, a'r ail gam o 27 Awst ymlaen. Byddant yn cynnwys amlenni wedi’u rhagdalu, a gall yr etholwyr ddefnyddio’r rhain i ddychwelyd y ffurflenni i'r cyngor.

Bydd y trydydd cam – y cam olaf – yn cael ei gynnal rhwng 28 Medi a 1 Tachwedd, lle bydd canfaswyr y cyngor, gyda’u chardiau adnabod swyddogol, yn galw mewn cartrefi sydd heb ymateb yn ystod cam 1 a 2.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod ar y gofrestr etholiadol am nifer o resymau, ac mae’r broses hon wedi'i dylunio er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn colli allan. Yn ogystal â gallu bwrw pleidlais mewn etholiadau, mae cael eich cynnwys ar y gofrestr etholiadol yn osgoi problemau posibl o ran cael credyd, benthyciad, morgais, contract ffôn symudol, pasbort a llawer mwy.

Mae’n bwysig i bobl sydd wedi symud i’r ardal yn ddiweddar yn enwedig, neu i gartrefi lle gallai pobl oedd ddim gymwys i bleidleisio yn ystod y cyfnod canfasio diwethaf fod yn gymwys y tro hwn.

Mae bod ar y gofrestr etholiadol yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng cael dweud eich dweud a cholli’ch cyfle i leisio eich barn ar faterion sy’n effeithio arnoch chi. Dim ond ychydig o funudau mae’n ei gymryd i lenwi'r ffurflen, ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan ac yn sicrhau eu bod yn dal yn cael dweud eu dweud.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Chwilio A i Y