Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyflwyno rheolau newydd i Reolau’r Ffordd Fawr

Bwriedir cyflwyno nifer o reolau newydd i Reolau’r Ffordd Fawr a all ddod i rym o ddydd Sadwrn 29 Ionawr.

Mae’r newidiadau’n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar adolygiad o’r Rheolau i wella diogelwch ar y ffordd ar gyfer unigolion sy’n cerdded, beicio a marchogaeth ceffylau.

Roedd wedi’i gynnal o fis Gorffennaf i fis Hydref 2020, a derbyniwyd dros 20,000 o ymatebion gan y cyhoedd, busnesau a sefydliadau eraill.

Bydd y rheolau newydd yn mynd ymhellach i ddiogelu beicwyr a cherddwyr sy’n defnyddio’r ffyrdd. Bydd hyn yn arbennig o berthnasol i drigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae dros £3m wedi’i fuddsoddi yng nghynllun teithio llesol y cyngor, a fydd yn cynnig gwell dewis i drigolion sydd eisiau defnyddio ffyrdd amgenach o deithio, fel beicio neu gerdded.

Mae rhwydweithiau teithio llesol yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac yn sicr yn dod yn nodwedd seilwaith lleol amlwg ar draws y wlad.

Oherwydd hynny, mae’r newidiadau hyn i Reolau'r Ffordd Fawr yn arbennig o berthnasol, a byddant yn helpu i wneud camau at wneud opsiynau teithio llesol yn fwy diogel i feicwyr, cerddwyr ac unigolion sy’n marchogaeth ceffylau. Gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl i ymgymryd â theithio llesol fel opsiwn gwahanol i yrru car, er enghraifft.

Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Mae’r wyth newid yn y rheolau’n cynnwys rhoi blaenoriaeth i gerddwyr wrth groesi cyffyrdd, rhoi blaenoriaeth i feicwyr wrth fynd heibio i gar yn ogystal â phan fo ceir yn troi, wrth gyffyrdd a chylchfannau, canllawiau ar gyfer beicwyr ynghylch lleoli ar y ffordd, hierarchaeth newydd o ddefnyddwyr y ffordd, canllawiau ynghylch ardaloedd a rennir gan feicwyr, cerddwyr a cheffylau a chaniatâd i groesi llinellau gwyn dwbl os oes angen, er mwyn mynd heibio i feicwyr neu geffylau.

Mae hefyd yn argymell technegau newydd ar gyfer gadael cerbydau, sef y ‘Dutch Reach’, lle mae pobl yn agor drysau ceir gan ddefnyddio’r llaw ar yr ochr gyferbyn i'r drws maent yn ei agor. Bydd hyn yn gwneud iddynt droi eu pen i edrych dros eu hysgwydd y tu ôl iddynt, gan eu gwneud yn llai tebygol i achosi anaf i feiciwr a phobl ar y palmant.

Mae rhestr lawn o’r newidiadau i’r rheolau i’w gweld ar wefan Llywodraeth y DU.

Chwilio A i Y