Cyflwyno Hysbysiad Gwella i ddwy dafarn
Poster information
Posted on: Dydd Llun 19 Hydref 2020
Mae dwy dafarn wedi derbyn Hysbysiad Gwella dros y penwythnos, ac mae ganddynt 48 awr i sicrhau bod y mesurau hanfodol ar waith i helpu i leihau'r risg o amlygiad i'r coronafeirws.
Cyrhaeddodd yr hysbysiad dafarn King Alfred ar Commercial Street, Maesteg, ar ôl pryderon dros ddiffyg ymbellhau cymdeithasol rhwng cwsmeriaid, cwsmeriaid yn archebu diodydd wrth y bar, mwy na chwe pherson wrth fwrdd, pobl o wahanol aelwydydd yn eistedd wrth fyrddau a bod y gerddoriaeth yn uchel ofnadwy.
Derbyniodd dafarn Green Meadow, Llangeinor, hysbysiad hefyd, oherwydd diffyg ymbellhau cymdeithasol yn y dafarn, ac am nad oedd cwsmeriaid yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth gerdded i'r toiledau neu chwarae pŵl.
Mae swyddogion gorfodi yn cynnal gwiriadau cydymffurfiaeth Covid-19 mewn rhaglen dreigl ar draws y sectorau masnachu gwahanol, gan gynnwys masnach drwyddedig. Bydd swyddogion yn ystyried cwynion a phryderon a godwyd gan aelodau'r cyhoedd wrth adnabod a blaenoriaethu ymweliadau â safleoedd.
Fel rhan o'u harchwiliadau, mae swyddogion y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi bod yn cynnig cefnogaeth a chyngor i helpu busnesau gyflawni eu dyletswyddau wrth gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel.
Wrth i achosion o coronafeirws gynyddu ar draws y fwrdeistref sirol, mae sicrhau bod y mesurau hyn ar waith yn rhan annatod o helpu i gadw preswylwyr yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, aelod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â phortffolio sy'n cynnwys y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n gyfrifol am safleoedd gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y gellir cynnal pellter o ddau fetr rhwng pobl sydd ar y safle neu'n aros i fynd i mewn, a darparu gwybodaeth i unrhyw un sy'n mynd i mewn neu'n gweithio yno ynglŷn â sut i leihau risg o amlygiad i'r coronafeirws.
Yn ogystal, rhaid iddynt gymryd mesurau rhesymol eraill i leihau'r risg o amlygiad i'r feirws, yn bennaf drwy wella neu leihau rhyngweithiad wyneb yn wyneb, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle nad yw pellter o ddau fetr yn bosib.
Mae Hysbysiadau Gwella Mangre yn nodi'r mesurau y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn cwrdd â'r rheoliadau o fewn terfyn amser penodol, 48 awr fel arfer.
Os nad yw'r safle yn cydymffurfio, gall swyddogion gorfodi gyhoeddi Hysbysiad Cau Mangre, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r safle, neu ran ohono, gael ei gau am hyd at 14 diwrnod. Mewn rhai amgylchiadau, bydd swyddogion gorfodi hefyd yn gallu cau'r safle ar unwaith heb gyflwyno hysbysiad gwella, ond dim ond mewn achosion difrifol o dorri'r rheoliadau.