Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyflwyno biniau gwm cnoi newydd

Mae biniau ‘gwm cnoi’ newydd wedi cael eu gosod ar bolion lamp ar hyd Stryd John ym Mhorthcawl fel rhan o'r ymgyrch ddiweddaraf i annog ailgylchu a lleihau gwastraff.

Yn ogystal â helpu i atal gwm cnoi rhag gadael staen hyll sy’n anodd cael gwared ag ef, mae’r biniau yn enghraifft greadigol o ailgylchu ar waith, oherwydd mae’n nhw’n cael eu creu drwy ddefnyddio gwm cnoi wedi’i ailgylchu.

Pan fydd y ‘Biniau GumDrop’ yn llawn, byddant yn cael eu tynnu i lawr a’u hailgylchu i greu mwy o finiau, yn ogystal â chynnyrch fel esgidiau glaw.

Mae’r bartneriaeth barhaus rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Porthcawl wedi golygu mai Porthcawl yw un o'r trefi cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r biniau blaengar yma, ond nid dyma’r unig beth sy’n cael ei wneud gadw Porthcawl yn lân.

Yn dilyn trafodaethau gyda busnesau tecawê lleol, bydd tri bin pwrpasol yn cael eu hychwanegu at y rhai yn ardaloedd Promenâd y Dwyrain, Stryd John a Pharc Griffin, er mwyn treialu’r broses o ailgylchu pecynnau bwyd tecawê.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd yr awdurdod lleol hefyd yn gosod dwy ffynnon ddŵr ar hyd glan y môr er mwyn helpu i annog pobl i gario poteli mae modd eu hailddefnyddio, a’u llenwi â dŵr o'r ffynnon am ddim yn hytrach na phrynu poteli plastig untro.

Mae gwm cnoi yn bla ar ein strydoedd, fel pob tref arall ar hyd a lled y wlad. Gwm cnoi yw’r math mwyaf cyffredin ond un o sbwriel ar y strydoedd, ar ôl deunyddiau sigaréts, ac mae cynghorau'r DU yn gwario tua £50m y flwyddyn yn glanhau’r golwg.

Felly rydyn ni’n croesawu’r biniau GumDrop newydd, sy’n ffordd greadigol o gael bobl i gael gwared â’u gwm cnoi mewn modd cyfrifol. Mae popeth yn cael ei ailgylchu, gan gynnwys y bin, wedyn caiff un arall ei roi yn ei le.

Yn gynnar y llynedd fe wnaethom lansio ein hymgyrch ‘Porthcawl – ei charu nid ei llygru’ sy’n cynnwys posteri a ddyluniwyd gan blant ysgol i annog preswylwyr ac ymwelwyr i fod yn gyfrifol gyda’u sbwriel. Mae angen i ni newid ymddygiad pobl, ac mae'r biniau gwm cnoi newydd, y biniau ailgylchu pwrpasol a'r gorsafoedd dŵr yn rhan o hynny, ac yn helpu i annog pobl i wneud eu rhan er mwyn cadw strydoedd a thraethau Porthcawl yn lân.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd y cyngor

Mae’r biniau GumDrop wedi cael eu creu gan yr entrepreneur Prydeinig, Anna Bullus. Ar ôl ymchwilio i gemeg gwm cnoi a gweld mai ei brif gynhwysyn yw math o bolymer tebyg i blastig, sylweddolodd y gallai gwm cnoi wedi'i ddefnyddio fod yn ddefnyddiol iawn.

Roedd Prifysgol Winchester yn un o’r lleoedd cyntaf i ddefnyddio'r biniau hyn, ac mae'r Great Western Railway wedi’u gosod mewn dros 25 o’u gorsafoedd rheilffyrdd.

Chwilio A i Y