Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yw'r lle perffaith i helpu i roi hwb i'ch rhagolygon gwaith
Poster information
Posted on: Dydd Llun 25 Chwefror 2019
Mae rhaglen newydd Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig ystod eang o gymorth i unrhyw un sy'n chwilio am waith, sydd eisiau swydd well, neu a fyddai'n hoffi gwella eu sgiliau drwy ennill cymwysterau newydd.
Wedi'i lansio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r rhaglen yn gallu helpu pobl leol sy’n gyflogedig neu'n ddi-waith i wella eu rhagolygon gwaith.
Yn amrywio o gyngor ar ysgrifennu CVau a thechnegau cyfweliad, i helpu i ddod o hyd i leoliadau gwirfoddol, neu hyfforddiant galwedigaethol am ddim megis cardiau CSCS ar gyfer y diwydiant adeiladu a chymwysterau cynorthwyydd addysgu, mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu cymorth wedi'i deilwra ar gyfer anghenion pob unigolyn.
Mae'r cynllun hefyd yn gallu darparu cymorth i dalu am gostau sy'n gysylltiedig â'r gwaith, fel esgidiau neu ddillad penodol a allai fod eu hangen, neu gymorth gyda thrafnidiaeth i'r gwaith hyd at eu diwrnod cyflog cyntaf.
Mae'r holl gymorth a gynigir gan Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr am ddim ac mae wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn dod â sawl rhaglen cyflogadwyedd at ei gilydd fel ei bod yn haws i drigolion lleol ddeall pa gymorth sydd ar gael.
Mae nifer o brosiectau cyflogadwyedd a hyfforddiant wedi cael effaith gadarnhaol yn lleol, ond mae pobl wedi adrodd yn ôl atom yn aml i ddweud ei bod yn anodd gwybod pa brosiectau maen nhw'n gymwys iddyn nhw a pha rai fyddai'n fwyaf addas ar eu cyfer.
Rydym bellach wedi gwneud y broses yn llawer mwy syml ac mae tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wrth law i helpu unrhyw un dros 16 oed fel eu bod yn gallu dod yn fwy cyflogadwy.
Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol: “Yn ogystal ag effaith ariannol, yn aml gall pobl nad ydynt yn gweithio ddioddef yn fawr o ddiffyg hunanwerth a hyd yn oed iselder. Maent eisiau cael swydd ond mae cymaint o rwystrau yn eu hatal.
“Mae rhaglen Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn anelu at gael gwared ar gymaint o'r rhwystrau hynny â phosibl, gan helpu pobl i ailadeiladu eu hyder a'u hunan-barch.
“Gall mynd i'r afael â'r problemau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio dychwelyd i'r gwaith wir newid bywydau pobl am y gorau. Mae'n hanfodol bwysig cefnogi unigolion a'u teuluoedd fel eu bod yn gallu torri'r cylch dieflig o fod heb waith.”
I wybod mwy am Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch 01656 815317, anfonwch e-bost at employability@bridgend.gov.uk neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol ar ‘Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr / Employability Bridgend’ ar Facebook neu @EmployaBridgend ar Twitter.
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio bob wythnos lle gall unrhyw un alw am sgwrs ynglŷn â'r cymorth maen nhw'n ei gynnig. Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal fel a ganlyn:
Dydd Llun
9am – 1pm: The Zone, Pen-y-bont ar Ogwr
2pm – 4pm: Canolfan Bywyd y Pîl
Dydd Mawrth
9am – 12pm: Canolfan Bywyd y Pîl
9.30am – 12pm: Llyfrgell Pencoed
10am – 3pm: Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau
1pm – 4pm: Y Ganolfan, Porthcawl
1pm – 4pm: Canolfan Bywyd Betws
1pm – 4pm: Eglwys Gymunedol Noddfa, Caerau
Dydd Mercher
9am – 12pm: Canolfan Bywyd y Pîl
9.30am – 12pm: Canolfan Gymunedol Bracla
9am – 11am: Canolfan Bywyd Cwm Garw
1pm – 4pm: Canolfan Richard Price, Llangeinwyr
2pm – 4pm: Llyfrgell Maesteg (Canolfan Chwaraeon)
Dydd Iau
9am – 12pm: Canolfan Bywyd Cwm Ogwr
9am – 2.30pm: Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau
9am – 5pm: The Zone, Pen-y-bont ar Ogwr
2pm – 4pm: Tŷ'r Ardd, Pen-y-bont ar Ogwr