Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig hyfforddiant a chyngor am ddim
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 07 Ebrill 2020
Mae staff Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cymorth i gleientiaid newydd a phresennol sy'n chwilio am waith ychwanegol neu gyfleoedd newydd yng nghanol yr argyfwng coronafeirws.
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig nifer o wasanaethau, gan gynnwys cymorth un i un am ddim dros y ffôn neu drwy negeseuon testun, yn ogystal â chyrsiau hyfforddiant ar-lein a Skype am ddim sy'n cydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol y llywodraeth.
Yn ystod y pythefnos diwethaf, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd, mae 13 o bobl wedi derbyn cymorth gan Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr i ddechrau naill ai swydd newydd neu swydd ychwanegol fel gweithiwr allweddol mewn gofal cymdeithasol, manwerthu a dosbarthu.
Mae cymorth hefyd ar gael os ydych am gael cymorth i gwblhau ffurflenni cais neu os ydych am lunio CV.
Mae tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio'n galed i gefnogi pobl leol i wella eu sefyllfa gwaith, sydd yn bwysig iawn yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Byddwn i’n annog unrhyw un sydd am ddechrau gweithio neu sydd am ymgymryd â rôl ychwanegol i gysylltu â'r tîm, sy'n gallu cynnig nifer o feysydd cymorth gwahanol.
Cynghorydd Huw David, arweinydd y cyngor
Os ydych chi'n chwilio am waith, oriau ychwanegol i ategu swydd bresennol neu gymwysterau i symud ymlaen yn eich swydd, cysylltwch â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr trwy e-bostio employability@bridgend.gov.uk neu drwy ffonio 01656 815317.