Cyfleuster profi symudol coronafeirws ar gael yn y Pîl o hyd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Ebrill 2021
Mae cyfleusterau profi symudol i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nad oes ganddynt symptomau Covid-19 yn dal ar gael yn y Pîl.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau y bydd y cyfleuster gyrru drwodd ym Mhwll Nofio Halo ar Marshfield Avenue yn y Pîl (CF33 6RP) ar gael tan ddydd Iau 22 Ebrill.
Mae profion ar gael rhwng 9am-5pm, ac mae'n rhaid trefnu apwyntiad ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119. Os oes gennych broblemau gyda'ch clyw neu leferydd, ffoniwch 18001119.
Mae'r cyfleuster profi galw heibio ym maes parcio'r Neuadd Fowlio yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH) ar agor rhwng 2pm ac 8pm bob dydd, i bobl gyda symptomau yn unig. Mae’n rhaid trefnu apwyntiad ar gyfer y cyfleuster hwn hefyd.
Dylai unrhyw un sy'n dangos symptomau'r coronafeirws - peswch sych parhaus, tymheredd uchel neu newid yn ei synnwyr blasu neu arogli - hunanynysu ar unwaith, a threfnu i gael prawf cyn gynted â phosib. Mae gwiriwr symptomau ar-lein ar gael ar wefan 111 GIG Cymru.