Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfleuster profi coronafeirws yn symud i Langeinor

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod ei gyfleuster profi symudol ar gyfer preswylwyr sydd â symptomau Covid-19 bellach wedi symud i Ganolfan Richard ar Bettws Road, Llangeinor (CF32 8PF).

Bydd y ganolfan newydd ar gael o ddydd Gwener 26 Mawrth ar gyfer profion galw heibio rhwng 9am-5pm.

Mae cyfleuster profi galw heibio hefyd ar gael rhwng 8am-8pm ym maes parcio'r Neuadd Fowlio ger Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH). Mae trefnu apwyntiad yn hanfodol ar gyfer y cyfleuster hwn a gellir gwneud hyn ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffonio 119. Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.

Tra bod y rhaglen frechu yn mynd rhagddi a chyfraddau heintio yn parhau i ostwng, rhaid i ni gyd ddal ati i fod yn wyliadwrus a pharhau i ddilyn y canllawiau a mynd am brawf.

Dylai unrhyw un sy'n dangos symptomau'r coronafeirws - peswch sych parhaus, tymheredd uchel neu newid yn ei synnwyr blasu neu arogli - drefnu prawf cyn gynted â phosib.

Os ydych yn symptomatig, sicrhewch eich bod yn defnyddio'r cyfleusterau hyn ac yn helpu i gadw eich cymuned yn ddiogel wrth i ni barhau i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Mae gwiriwr symptomau ar-lein ar gael ar wefan 111 y GIG Cymru.

Chwilio A i Y