Cyfleuster gofal plant newydd sbon ym Metws
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 01 Tachwedd 2022
Ydych chi’n ddarparwr gofal plant medrus a phrofiadol?
Ydych chi’n angerddol am y Gymraeg?
Ydych chi’n chwilio am gyfle newydd?
Mae’r Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio rhaglen uchelgeisiol i wella mynediad at ofal plant cyfrwng Cymraeg ledled yr Awdurdod Lleol, gyda chefnogaeth cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r rhaglen hon, mae cyfleuster gofal plant newydd sbon wedi’i greu ym Metws, yn agos i’r Ysgol Gynradd, a ddylai gael ei gyflawni a’i drosglwyddo yn yr wythnosau nesaf.
Dyddiau Agored
22 a 23 Tachwedd 2022, rhwng 9am a 4pm
Bydd y Tîm Gofal Plant wrth law i arddangos y cyfleuster i ddarparwyr gofal plant sydd â diddordeb mewn sicrhau’r denantiaeth ac sy’n ymrwymo i gynnig gofal ac addysg o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg i’r gymuned leol a thu hwnt.
Dyma gyfle unigryw i fod ar reng flaen datblygiadau gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr angerddol ac arbenigol o’r awdurdod lleol a’n partneriaid Cymraeg i greu busnes lleol llwyddiannus ac uchel ei barch.
Anogir darparwyr sydd â diddordeb i fynd ati ar unwaith i sicrhau slot naill ar 22 neu 23 Tachwedd 2022 lle bydd gennych chi’r cyfle i:
- ymweld â’r adeilad a’i ofodau dysgu awyr agored
- dysgu mwy am y cymhellion sydd ar gael
- gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi