Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfleoedd am waith sydd ar gael yn Ffair Swyddi Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd dwsinau o gyflogwyr a sefydliadau lleol yn mynychu Ffair Swyddi Pen-y-bont ar Ogwr yr wythnos hon i gynnig ystod eang o swyddi gwag newydd a chyffrous.

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn dychwelyd eleni i'r Neuadd Fowlio yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd yr Angel, (CF31 4AH) ddydd Iau 15 Medi, rhwng 9.30am a 2.30pm.

Wedi'i drefnu ar y cyd rhwng tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y cyngor a'r Ganolfan Byd Gwaith, bydd y ddau sefydliad yn cynnig cymorth a chyngor ar amrywiaeth o gyfleoedd gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Eleni, bydd y Ffair Swyddi hefyd yn cynnwys Parth Hyfforddiant newydd, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o ddarparwyr, yn arddangos yr ystod o gyfleoedd datblygu sydd ar gael ganddynt.

Ni fydd y streiciau cludiant cyhoeddus a oedd i fod i'w cynnal ddydd Iau 15 Medi yn digwydd bellach. Mae parcio yng Nghanolfan Fywyd Halo Pen-y-bont ar Ogwr yn rhad ac am ddim o flaen yr adeilad am 2 awr, ond mae'n rhaid cofrestru rhif eich car yn y dderbynfa. Mae 3 awr o barcio rhad ac am ddim ar gael ym Maes Parcio Rhiw.

Ymysg y cyflogwyr sy'n cymryd rhan, mae:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cwmni Cosmetig Avon
  • G4S
  • Gyrfa Cymru
  • A & R Cleaning Services
  • MPS Industrial
  • Rubicon Wales Facilities Management
  • Harlequin Home Care Ltd
  • Wilmott Dixon

Bydd amrywiaeth o swyddi gwag dros dro a pharhaol ar gael i wneud cais amdanynt ar y diwrnod.

Bydd staff o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wrth law i roi manylion am swyddi gwag cyfredol yn yr awdurdod lleol, ynghyd â chynnig cyngor ar hyfforddiant a chyfleoedd cymorth i raddedigion ysgol a choleg, a mwy.

Dros y blynyddoedd, mae’r digwyddiad wedi denu nifer fawr o ymwelwyr ac mae cyflogwyr wedi gallu dod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer eu swyddi gwag.

Mae'r ffair swyddi blynyddol yn hynod boblogaidd bob blwyddyn, ac rwy’n falch bod yr awdurdod lleol a’r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio gyda’i gilydd unwaith eto i drefnu'r digwyddiad eleni.

Mae’r ffair yn gyfle gwych i ennill gwybodaeth a chefnogaeth bwysig ar gyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi, yn ogystal â sicrhau rôl barhaol.

Mae wedi ennill enw da fel digwyddiad lle gall pobl gael mynediad at yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y