Cyfle olaf i gael dweud eich dweud ar flaenoriaethau gwariant y cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 09 Tachwedd 2021
Mae llai nag wythnos ar ôl bellach i breswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael dweud eu dweud ar flaenoriaethau gwariant y cyngor dros y flwyddyn nesaf.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllideb y flwyddyn nesaf yn dod i ben 14 Tachwedd 2021, ac mae pobl yn cael eu hannog i gymryd rhan tra bod y cyfle ar gael.
Eleni, mae’r ymgynghoriad ar y gyllideb yn ystyried gweledigaeth hirdymor ar gyfer y fwrdeistref sirol, yn cynnwys meysydd megis gwasanaethau cymdeithasol, ffyrdd, prosiectau adfywio, buddsoddi i ysgolion, cynlluniau ynni ac amddiffynfeydd morol, yn ogystal â lefelau’r dreth gyngor, ffioedd a chostau ar gyfer parcio a phafiliynau chwaraeon, a datblygiad ein gwasanaeth ar-lein.
Mae hefyd yn gofyn am farn preswylwyr ynghylch y ffordd orau i gefnogi busnesau lleol, twristiaeth a’r economi.
Er mwyn helpu pobl i ddysgu mwy am beth mae’r ymgynghoriad yn ei olygu i ddyfodol y fwrdeistref sirol, mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David, wedi recordio podlediad byr gyda’r DJ lleol, Lee Jukes.
Mae’r podlediad ar gael ar wefan yr awdurdod lleol, ac mae’n trafod pa mor bwysig yw cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ac egluro sut mae’r dreth gyngor yn cael ei gosod a’r gyllideb gyffredinol.
Rydym yn gwahodd unrhyw un sydd heb gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb i wneud hynny cyn y dyddiad cau ar 14 Tachwedd.
Mae rhannu eich barn yn ein helpu ni fel Cyngor a Chabinet i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau call o ran ble ydyn ni a sut mae arian yn cael ei wario yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod ein gwasanaethau cymunedol yn gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon.
Hoffem hefyd gyfeirio pobl at y podlediad rhwng y Cyng. David a’r DJ Lee Jukes. Mae’n gyflwyniad cyflym a rhwydd i’r ymgynghoriad ar y gyllideb ac yn amlygu pam ei bod hi mor bwysig i breswylwyr gael dweud eu dweud.
Dirprwy Arweinydd Hywel Williams
Bydd ymatebion gan breswylwyr yn cael eu defnyddio i lywio’r strategaeth ariannol tymor canolig ar gyfer 2022/23 – 2025/26.
Bydd yr ymgynghoriad, a agorodd ym mis Medi, yn dod i ben ar 14 Tachwedd. Llenwch yr arolwg ar-lein neu, i gael copi papur o’r arolwg, e-bostiwch consultation@bridgend.gov.uk, ffoniwch 01656 643664 neu ysgrifennwch at y Swyddfeydd Dinesig, Angel Street, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.