Cyfle olaf i ddweud eich dweud ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2021
Mae llai nag wythnos ar ôl i ddweud eich dweud ynghylch uwchgynllun drafft a fydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa fath o ddatblygiadau a all ddigwydd ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng nawr a 2033.
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd sydd ar hyn o bryd yn y cam drafft adneuo, yn cynnwys yr holl bolisïau y bydd yr awdurdod yn eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.
Mae'n amlinellu sut y gellir defnyddio tir, a pha rannau o'r fwrdeistref sirol a fydd yn cael eu cynnal fel mannau agored neu’n cael eu dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, y gymuned a thwristiaeth.
Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y drafft y mis diwethaf ac mae'n rhoi cyfle i gymunedau a rhanddeiliaid yn y fwrdeistref sirol roi eu barn ar y cynllun newydd a fydd yn disodli'r CDLl presennol, a fydd yn dod i ben maes o law.
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy fynd i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae fformatau eraill ar gael ar gais. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Mawrth 27 Gorffennaf.
Mae'n hynod bwysig bod y cyhoedd yn dweud eu dweud drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ddogfen allweddol yn siapio sut fydd y fwrdeistref sirol yn datblygu dros y 15 mlynedd nesaf. Mae'n sicrhau fod datblygiad yn digwydd yn yr ardaloedd cywir gyda'r seilwaith ategol lle bynnag mae ei angen.
Mae'r cynllun yn sefydlu'r egwyddorion clir ar gyfer datblygu safle sydd wedyn yn arwain at geisiadau cynllunio yn y dyfodol.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Mae'r CDLl yn ceisio sicrhau bod digon o gartrefi newydd i ddiwallu anghenion cymunedau sy'n tyfu o fewn y fwrdeistref sirol gan hefyd ddarparu seilwaith a chyfleusterau newydd, a denu buddsoddiad economaidd newydd i'r ardal.
Bwriedir i'r datblygiadau newydd fod o amgylch prif aneddiadau Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, y Pîl, ac ym Mhorthcawl, gyda thwf adfywio ym Maesteg yn ogystal â safleoedd llai eraill.
Dros gyfnod o 15 mlynedd y cynllun, mae’r cynllun yn anelu at helpu i greu bron i 5,000 o swyddi ychwanegol.
Mae'r CDLl hefyd yn ystyried Siarter Creu Lleoedd Cymru sy'n ceisio sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu neu wella amgylcheddau lle gall pobl, cymunedau, busnesau a natur ffynnu.