Cyfle olaf i ddefnyddio canolfan brofi gymunedol yng Nghaerau
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 30 Mawrth 2021
Mae gan drigolion Cwm Llynfi un diwrnod arall i fanteisio ar gyfleusterau profi cymunedol am ddim sydd wedi'u lleoli ar hyn o bryd yng Nghlwb Pêl-droed Caerau Athletic.
Nid oes rhaid trefnu apwyntiad, mae'r ganolfan galw heibio ar gael rhwng 9.30am-6.30pm tan ddydd Mercher 31 Mawrth.
Mae'r profion cymunedol, sydd wedi'u cynllunio i adnabod pobl a allai fod â coronafeirws ond nad ydynt yn gwybod hynny, wedi'u hanelu at bobl 11 oed a hŷn nad ydynt eisoes yn arddangos symptomau'r feirws.
Mae'n helpu i atal pobl asymptomatig rhag lledaenu'r feirws yn ddiarwybod i'w teulu, ffrindiau, cymdogion, cydweithwyr a mwy.
Gan ei bod yn bosibl i bobl sydd wedi cael eu brechu barhau i gario'r feirws, mae'r profion yn cynnwys preswylwyr a allai fod eisoes wedi cael prawf neu sydd wedi cael dos o'r brechlyn. Fodd bynnag, ni ddylai pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain gymryd rhan.
Yn y ganolfan, bydd staff yn tywys pobl at fythau lle gallant gynnal prawf swab. Bydd y swab yn cael ei brosesu ar y safle, a chysylltir â chyfranogwyr o fewn 30 munud gyda'r canlyniadau.
Os bydd canlyniad positif yn cael ei gofnodi, gofynnir i'r unigolyn hunanynysu tra bo trefniadau'n cael eu gwneud iddynt gael prawf cadarnhau a rhagor o gyngor a chymorth.
Ni ddylai unrhyw un sy'n cymryd rhan fwyta am 30 munud ymlaen llaw. I gyflymu'r broses gofrestru, gallwch hefyd lawrlwytho ap cod QR Covid-19 drwy fynd i'r dudalen we Covid-19 ar wefan y GIG.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen profi cymunedol yn www.bridgend.gov.uk