Cyfle i ddweud eich dweud ar ddefnydd y dyfroedd o amgylch Harbwr Porthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 24 Medi 2021
Mae pobl yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar sut y dylid defnyddio’r dyfroedd o amgylch Harbwr Porthcawl yn y dyfodol.
Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn gwahodd safbwyntiau ar y materion sy’n codi yn yr harbwr, a ph’un a ddylid diweddaru deddfau lleol sy’n dyddio’n ôl i 1953 at ddefnydd cyfoes.
Pe bai deddfau newydd neu ddiwygiedig yn cael eu mabwysiadu, byddant yn cwmpasu’r meysydd canlynol:-
- Docio
- Mordwyaeth
- Pysgota
- Parcio
- Ymdrochi a deifio
- Giatiau clo
- Llithrfa
- Cyfyngiadau'r draethlin
- Gwastraff
- Diogelwch
- Amddiffyn
- Cosbau
Mae hon yn ardal hynod boblogaidd a phrysur o Borthcawl, nid yn unig mae’n gartref i'r brif fynedfa i mewn ac allan o'r marina a'r ardal lansio ar gyfer yr orsaf bad achub brysuraf wrth y lan yng Nghymru, mae'r dyfroedd o amgylch yr ardal hon hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau fel pysgota, sgïo dŵr, padlfyrddio, caiacio, nofio a mwy.
Mae'r morglawdd cyfagos hefyd yn adnabyddus fel man 'tombstoning' lle mae pobl yn neidio oddi ar y wal i mewn i'r dŵr, yn aml heb sylweddoli bod ramp concrit islaw wyneb y dŵr pan fo'r llanw'n uchel. Wrth gydnabod poblogrwydd a’r cynnydd yn nefnydd Harbwr Porthcawl, bydd yr ymgynghoriad hwn yn penderfynu a oes angen diweddaru neu fabwysiadu deddfau newydd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben ac yn cadw pobl yn ddiogel o fewn amgylchedd morol hynod brysur.
Yn ogystal ag ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol lleol fel RNLI Porthcawl, Clwb Hwylio’r Harbwr a'r Sefydliad Gwylwyr y Glannau Cenedlaethol, rydym yn gofyn am eich barn chi, felly cymerwch yr amser i ddweud eich dweud ar y mater pwysig hwn.
Cynhorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Daw'r ymgynghoriad, a agorodd ym mis Awst, i ben ddydd Gwener, 14 Tachwedd 2021.
Am ragor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg ar-lein, ewch draw i wefan y cyngor. Mae fformatau eraill ar gael ar gais.