Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyffro'n magu stêm ar gyfer agoriad Ysgol Gynradd Pencoed

Mae'r gwaith ar yr Ysgol Gynradd Pencoed newydd sbon, gwerth £10.8 miliwn, ar fin dod i ben, yn barod i ganu'r gloch ysgol am y tro cyntaf ar y safle newydd ar ddydd Mercher 5 Medi.

Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn gynharach y mis hwn, ac mae'r dosbarthiadau'n cael eu paratoi ar hyn o bryd gyda'r holl gyfarpar y byddech chi'n disgwyl ei weld yn yr ysgol fodern ddiweddaraf.

Pan fydd disgyblion yn cerdded drwy'r drysau i ddechrau'r tymor newydd, hwn fydd y tro cyntaf i'r holl ysgol gynradd fod ar un safle ers i'r hen ysgol gael ei hadeiladu ar ddechrau'r 1900au.

Mae adrannau ar wahân wedi bodoli ar gyfer babanod a phlant iau ers mwy na chanrif, gydag adeiladau ar ddwy ochr ffordd brysur Heol Penprysg yn ogystal â safle yn Heol y Cyw.

Alla i ddim pwysleisio digon pa mor falch ydw i ein bod wedi gallu darparu ysgol newydd ragorol ar gyfer pobl Pencoed.

Bu hen adeiladau'r ysgol yn gwasanaethu cenedlaethau o bobl leol, ond mae angen y cyfleuster integredig, modern hwn er mwyn i ni allu symud â'r oes a darparu'r amgylchedd addysgol gorau posibl.

Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David

Ychwanegodd Cynghorydd Huw David: "Rwy'n siŵr y bydd y disgyblion a'r rhieni wedi'u syfrdanu gan y cyfleusterau a fydd yn cael eu cynnig yn yr ysgol newydd. Mae ei dyluniad yn debyg i ysgol gynradd newydd Betws, a gafodd ei dylunio hefyd gan dîm dylunio mewnol y cyngor. Gellir dod o hyd i'r dosbarthiadau oddi ar un gofod cylchdroi hir sy'n rhedeg drwy ganol yr ysgol, ar y llawr daear a'r llawr cyntaf.

"Gwneir defnydd rhagorol o'r gofod agored, hir hwn ym Metws. Maen nhw'n hoffi ei alw'n 'stryd', a gallaf weld y bydd yn dod yr un mor boblogaidd gan ddisgyblion Pencoed ar gyfer darllen, gwaith cyfrifiadurol a chyfleoedd dysgu eraill.

“Mae neuadd yr ysgol newydd yr un mor drawiadol, ac rwy'n synnu at ba mor olau a llachar yw'r ysgol newydd, y tu mewn a thu allan.

"Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth barhaus i'n rhaglen moderneiddio ysgolion, ac estynnaf ddiolch hefyd i'n contractwyr, BAM Construction Ltd, ein disgyblion, athrawon, llywodraethwyr, staff yr ysgol, staff y cyngor a phawb arall sydd wedi gwireddu'r prosiect hwn.”

Mae ysgol gynradd newydd Pencoed wedi'i hariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a rhaglen Llywodraeth Cymru i sicrhau addysg ac ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae'r cyngor wedi buddsoddi cyfanswm o £6.766 miliwn ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £4.067 miliwn.

Mae'r awdurdod lleol wedi buddsoddi swm sylweddol o thua £400 mil hefyd, trwy waith priffyrdd a thawelu traffig er mwyn gwella diogelwch y ffordd gerllaw a galluogi disgyblion i deithio i'r ysgol yn ddiogel ar droed, beic neu sgwter.

Mae hwn yn ddechrau cyfnod newydd rhagorol ar gyfer Ysgol Gynradd Pencoed. Rwy'n gwybod bod pawb yn yr ysgol yn edrych ymlaen yn eiddgar at fod gyda'i gilydd ar un safle. Ni fydd angen iddynt groesi priffordd brysur nifer o weithiau'r dydd bellach er mwyn cerdded rhwng dosbarthiadau, ac mae'r cyfleusterau newydd yn ddi-ail.

Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn sbïo ar y safle adeiladu ers i'r gwaith adeiladu ddechrau fis Gorffennaf diwethaf yn cael eu synnu o'r ochr orau pan welant y canlyniad terfynol. Mae dechrau tymor bob amser yn gyfnod cyffrous, ond bydd yn ddifyr dros ben i ddisgyblion Ysgol Gynradd Pencoed eleni.

Y Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Gyda meithrinfa 70 o leoedd a chyfleusterau ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, bydd yr ysgol newydd hefyd yn briodol ar gyfer hyd at 510 o ddisgyblion rhwng pedair ac 11 mlwydd oed, ac mae'n cynnwys cyfleusterau chwaraeon a hamdden y gellir eu rhannu gyda'r gymuned ehangach.

Bydd hefyd wyth lle ar gyfer disgyblion â nam ar eu golwg, wyth lle ar gyfer arsylwi ar fabanod, wyth lle i ddisgyblion ag awtistiaeth, a dau ddosbarth arall gyda lle i 15 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol.

Chwilio A i Y