Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfarfodydd cyngor ar gael i'w gweddarlledu

Bydd trigolion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â llygad craff am faterion lleol yn gallu gwylio gweddarllediadau o sawl cyfarfod cyhoeddus a gaiff eu cynnal yn ystod yr haf hwn.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd yn bosib 'dal i fyny' ar y cyfarfodydd canlynol unwaith y byddant wedi dod i ben.

Dydd Mawrth 21 Gorffennaf, 2.30pm: Cabinet
Dydd Mercher 22 Gorffennaf, 3pm: Cyngor
Dydd Iau 23 Gorffennaf, 2pm: Pwyllgor Rheoli Datblygiad

Bydd y cyfarfodydd hyn yn rhoi mewnwelediad i drigolion o'r materion cyfredol a datblygiadau'r dyfodol ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gweddarlledu yn ein galluogi i fod hyd yn oed yn fwy tryloyw, ac mae'n ffordd wych o ymgysylltu â thrigolion lleol.

Sawl blwyddyn yn ôl, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid i ni er mwyn sefydlu ein system weddarlledu ein hun, ac, ers hynny, rydym wedi monitro'r ffigurau gwylio fel y gallwn ddarlledu'r cyfarfodydd sydd o'r diddordeb mwyaf i'r cyhoedd. Bydd y cyfarfodydd sydd ar y gweill hyn sydd wedi'u hamserlennu ar gyfer eu gweddarlledu yn cwmpasu amrediad o destunau, gan gynnwys penderfyniadau am ddyfodol addysg ôl-16 ar draws y fwrdeistref sirol.

Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Yn sgil y gofyniad am gadw pellter cymdeithasol, nid yw cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn eu lleoliad arferol. Mae cyfarfodydd yn digwydd ar-lein ac mae aelodau a swyddogion y cyngor yn eu mynychu o bell. Caiff y cyfarfodydd eu darlledu yn www.bridgend.gov.uk/cy/, a byddant yn cael eu recordio a'u harchifo fel y gall trigolion eu gwylio pryd bynnag sy'n gyfleus iddynt, am gyfnod o hyd at 12 mis.

Chwilio A i Y