Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfarfod Cyntaf Tasglu Ford ym Mhen-y-Bont

Bu i Dasglu Ford ym Mhen-y-Bont ar Ogwr gyfarfod am y tro cyntaf yn ystod y bore, ddydd Llun 1 Gorffennaf 2019, o dan Gadeiryddiaeth Richard Parry-Jones.  Cafodd y cyfarfod ei gynnal ar y cyd gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns yng Nghanolfan Dechnolegol Waterton ym Mhen-y-Bont.

 

Daeth y Tasglu â chynrychiolwyr y ddwy Lywodraeth, Ford, Undebau Llafur, Awdurdodau Lleol, y gymuned fusnes ac eraill at ei gilydd i drafod sut i fynd i'r afael ag effaith y penderfyniad gan Ford i ddechrau ymgynghoriad i gau eu ffatri ym Mhen-y-bont erbyn diwedd 2020, gan gael effaith ar oddeutu 1700 o weithwyr Ford yn ogystal â'r rhai hynny sy'n gweithio yn y cadwyni cyflenwi lleol a chenedlaethol.

 

Mae Ford wedi cynnig y bydd cynhyrchu yr injan newydd Ford 1.5L yn dod i ben ym Mhen-y-bont ym mis Chwefror 2020, gyda'r cyflenwad o injan i'r Jaguar Land Rover yn dod i ben ym mis Medi 2020, sef pryd y mae cynnig i gau Ffatri Pen-y-bont.

 

Yn dilyn trafodaethau cychwynnol oedd yn adeiladol ac ystyrlon iawn, bu'r Tasglu yn trafod eu Cylch Gorchwyl cychwynnol, gan sefydlu'n ffurfiol dair ffrwd waith yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Pobl, Posibiliadau a Lle. 

 

  • Pobl: I gefnogi pob gweithiwr a'u teuluoedd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac anuniongyrchol o ganlyniad i gau'r ffatri (swyddi, iechyd, lles, sefydlogrwydd ariannol).

 

  • Posibiliadau: I nodi a hyrwyddo cyfleoedd economaidd y safle, yr ardal, y gweithlu, a'r gadwyn gyflenwi er mwyn creu opsiynau masnachol hyfyw a chynaliadwy.

 

  • Lle: I adeiladu ar gydnerthedd economaidd a chymdeithasol cymuned Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal, hyrwyddo a datblygu hyder economaidd.

 

Bu'r Tasglu'n trafod maint yr her a'r prif broblemau o ran gweithredu ar unwaith.  Cytunodd yr aelodau y bydd y prif Dasglu yn cyfarfod yn rheolaidd, gyda'r ffrydiau gwaith yn cyfarfod mor aml â phosibl.

 

Wedi cyfarfod cyntaf y Tasglu llawn, cynhaliodd tri o Gadeiryddion y Ffrydiau Gwaith sesiynau ar wahân i drafod y prif themâu a'r blaenoriaethau ar hyn o bryd. Cytunwyd y byddai'r ffrydiau gwaith hyn yn cynnal eu cyfarfod cyntaf llawn o fewn y bythefnos nesaf.

 

Mae pob aelod o'r Tasglu yn cytuno i barhau i gydweithio yn adeiladol i gefnogi'r gweithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned yn ehangach yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn. Rydyn ni'n benderfynol o weithio'n ddiflino i ddod o hyd i'r ffordd orau o wynebu'r dyfodol i pawb.

 

Chwilio A i Y