Cyfanswm o £680,000 o grantiau yn cael eu cyhoeddi i elusennau bach
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 28 Awst 2020
Mae bron i 70 o elusennau bach yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cyfanswm o £680,000 rhyngddynt gan grant cymorth gyda chyfraddau busnes i'w helpu nhw i ymateb i heriau ariannol Covid-19.
Hyd yn hyn, mae'r cyngor wedi dyfarnu cyfanswm o 68 grant gwerth £10,000 yr un.
Mae'r cynllun grant wedi'i anelu at elusennau bach sydd ag eiddo yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu is, gan gynnwys siopau elusen, safleoedd chwaraeon a chanolfannau cymunedol.
Mae elusennau yn chwarae rôl allweddol yn llesiant ein holl gymunedau gyda nifer ohonynt wedi bod yn rhan hollbwysig o helpu'r rhai mwyaf bregus dros y misoedd diwethaf.
Bydd y cronfeydd allweddol hyn yn eu helpu nhw i ddelio â rhai o'r pwysau ariannol maent yn eu hwynebu yn sgil argyfwng y coronafeirws.
Dywedodd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd Heidi Bennett, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO): “Yn yr un modd â'r sector preifat, mae manwerthu elusennol wedi cael ergyd galed ac mae canolfannau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr ar draws y fwrdeistref hefyd wedi'i chael hi'n anodd bodloni costau sefydlog gan nad oeddynt yn gallu gosod eu lleoliadau.
"Mae'r cyllid hwn wedi'i werthfawrogi'n arw gan y sector elusennau lleol; ac i rai, mae'n hanfodol i'w goroesiad."
Bu i'r cynllun gau i geisiadau newydd 30 Mehefin a chyfyngwyd ceisiadau i uchafswm o ddau eiddo mewn un fwrdeistref sirol, ond nid oeddynt ar gael i sefydliadau a oedd eisoes wedi cael grant o £10,000 gan y Gronfa Gwytnwch Economaidd.