Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cydweithredu rhwng Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid i ddod i ben

Bydd trefniant cydweithredol sy'n ymwneud â rhannu gwasanaethau troseddau ieuenctid ar draws tri chyngor yn dod i ben fis nesaf.

Bydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae’r Gorllewin – sy’n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Dinas a Sir Abertawe - yn dod i ben ar 1 Ebrill.

Mae Aelodau'r Cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno mai dyma'r amser i ddod â'r cydweithrediad gwirfoddol i ben gan ei fod yn cyd-fynd â gwasanaethau iechyd Pen-y-bont ar Ogwr yn symud i'r dwyrain o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf.

Mae'r holl bartneriaid wedi cytuno fod hwn yn gyfle euraid i roi diwedd ar y cydweithio sydd wedi bod ar waith ers y pedair blynedd diwethaf. Byddwn yn dychwelyd at gynnal gwasanaeth troseddau ieuenctid ar gyfer pobl ifanc Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unig, er ein bod eisoes wedi dechrau trafodaethau â Bwrdd Iechyd Cwm Taf ynghylch cyfleoedd i gydweithio ar brosiectau penodol.

Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn cael eu cydlynu a'u cyflenwi i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu ac aildroseddu. O dan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae'r Gorllewin, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gwelsom ostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy'n troseddu ac yn aildroseddu.

Bydd pobl ifanc sy'n defnyddio’r gwasanaeth yn parhau i gyfrannu’n weithredol at weithgareddau i'w helpu i fod yn ddinasyddion gwell. Rwy'n hyderus iawn yn arbenigedd ein staff i barhau i leihau nifer y bobl ifanc sy'n cyrraedd y System Cyfiawnder Troseddol, gan helpu i oresgyn ymddygiad negyddol a gwneud ein cymunedau yn fwy diogel.

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Chwilio A i Y