Cydnabod Ysgol Heronsbridge am fuddsoddi mewn pobl
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 07 Chwefror 2018
Mae Ysgol Heronsbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ei derbyn achrediad aur Buddsoddwyr mewn Pobl i gydnabod ymrwymiad yr ysgol i berfformiad uchel drwy reoli pobl yn dda.
Buddsoddwyr mewn Pobl yw’r safon ryngwladol sy’n diffinio’r hyn sydd ei angen i arwain, cefnogi a rheoli pobl yn effeithiol er mwyn cyflawni canlyniadau cynaliadwy, ac mae’n galluogi sefydliadau i feincnodi eu hunain o’u cymharu â’r goreuon yn y busnes.
Mae’r safon yn seiliedig ar fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n adlewyrchu’r tueddiadau diweddaraf yn y gweithle, y sgiliau hanfodol, a’r strwythurau effeithiol sy’n ofynnol er mwyn perfformio’n rhagorol mewn unrhyw ddiwydiant.
Dywedodd Paul Devoy, pennaeth Buddsoddwyr mewn Pobl: “Hoffem ni longyfarch Ysgol Heronsbridge. Mae’r achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn arwydd o gyflogwr gwych, gweithle â pherfformiad rhagorol ac mae’n dangos ymrwymiad clir i lwyddiant. Dylai Ysgol Heronsbridge fod yn arbennig o falch o’i chyrhaeddiad.”
Dywedodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge, Jeremy Evans, wrth wneud sylwadau ar y wobr: “Mae ennill yr achrediad aur yn nodi ein taith un mlynedd ar hugain gyda Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae’n adlewyrchu ein gwerthoedd fel sefydliad ac yn adlewyrchiad o ymrwymiad ac ymdrech pawb sy’n gweithio yn Heronsbridge - ar hyn o bryd ac yn y gorffennol.
“Hoffwn i ddiolch i bawb am fod yn rhan o’r gwaith i wneud Heronsbridge yn lle hyfryd i weithio ynddo ac am wneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o ddisgyblion a’u teuluoedd.”
Mae hyn yn gyrhaeddiad rhagorol i Heronsbridge, ac mae’n amlygu faint y mae’r ysgol yn cefnogi ei 200 o aelodau staff ac yn buddsoddi ynddynt drwy roi hyfforddiant o ansawdd uchel a chyfleoedd i ddatblygu iddynt.
Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Ysgol Heronsbridge yn ysgol arbennig breswyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n darparu ar gyfer anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol ac anhwylderau’r sbectrwm awtistig.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Buddsoddwyr mewn Pobl.