Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwpwl lleol yn ennill prif wobr maethu cenedlaethol

Mae cwpwl lleol wedi ennill 'Gwobr Rhagoriaeth Maethu' fawreddog am eu gwaith caled, ymroddiad, a chyfraniad rhagorol i faethu yn y fwrdeistref sirol.

Mae Pete a Becky Walsh, sydd wedi bod yn goflau am blant fel rhan o'r tîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr am 16 mlynedd, wedi ennill 'Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig - Jona a Kathy Broad' yn seremoni gwobrau blynyddol y Rhwydwaith Maethu, a gynhaliwyd yn Theatr Repertory Birmingham ddydd Iau 10 Tachwedd.

Enwebwyd y cwpwl gan eu Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol yn Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, Bernadette Guy, a ddywedodd: "Mae Peter and Becky yn ofalwyr maeth eithriadol sydd bob amser yn canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i'r plant yn eu gofal. Mae'r cwpwl ar hyn o bryd yn gofalu am blentyn gydag anghenion iechyd cymhleth sy'n cynnwys mynychu apwyntiadau ysbyty hyd at gan milltir o gartref.

 

"Mae Becky a Peter yn cymryd popeth fel y daw a phob amser yn mynd tu hwnt i'w dyletswyddau i fodloni anghenion y plentyn."

 

"Yn ychwanegol, mae Becky hefyd yn cynorthwyo gofalwyr eraill ac mae hi'n uchel iawn ei pharch yn ei gwaith. Yr hyn sy'n gwneud iddynt serennu yw eu hagwedd gallu gwneud a'u bod yn dathlu pob cyflawniad."

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Jane Gebbie: "Hoffwn longyfarch Pete and Becky ar eu 'Gwobr Rhagoriaeth Maethu' llwyr haeddiannol.

 

"Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad y cwpwl ysbrydoledig hwn i'r plant y maent yn gofalu amdanynt wedi cael ei gydnabod.


"Mae'n hynod o bwysig dangos ein gwerthfawrogiad a diolch i ofalwyr maeth am eu cyfraniad hanfodol wrth wneud gwahaniaeth i fywydau plant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae gwobrau fel y rhain yn amlygu gwerth eu gwasanaeth a'r gwaith rhagorol a wneir ganddynt."

Dywedodd Pete a Becky a dderbyniodd y wobr: "Rydym yn teimlo'n ostyngedig iawn o fod wedi cael ein henwebu am wobr, heb sôn am ennill un. Nid ydym yn gweld ein hunain yn wahanol i unrhyw riant arall sydd o gwmpas, rydym yn caru bob un o'n plant yn fawr iawn ac yn ymdrechu i wneud ein gorau i bob un ohonynt.

"Rydym yn ymwybodol iawn, oherwydd natur yr anghenion, a lefel y cymhlethdodau meddygol yr ydym yn delio â hwy, ei fod yn gofyn i lawer o blatiau gael eu troelli ar unwaith ac fe all hynny fod yn flinedig ar adegau...ond ni fyddem yn newid dim.

 

"Bob dydd mae yna gyflawniad, llygedyn o obaith am garreg filltir newydd, gwên sy'n eich toddi neu berson ifanc penderfynol sydd ddim yn rhoi'r ffidil yn y to ac mae hynny ynddo'i hun yn rhoi nerth inni ddal ati gyda'r hyn a wnawn.

 

"Rydym wedi cael ein bendithio gyda rhwydwaith o deulu hynod o gefnogol a gweithwyr proffesiynol sydd wedi bod gyda ni bob cam o'r ffordd.

 

"Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddweud diolch yn fawr iawn wrth y plant sydd wedi aberthu cymaint eu hunain, nid ydynt byth yn cwyno am golli allan ar eu profiadau eu hunain pan mae'r teulu yn cael ei wahanu gan nosweithiau mewn ysbyty. Maen nhw'n gorfod addasu'n aml heb ddim neu fawr ddim rhybudd pan fo amgylchiadau'n newid yn sydyn. Rydym mor falch o ba mor ofalgar, meddylgar, a chynhwysol yr ydych i gyd, ac ni fyddem yn gallu rhoi'r lefel o ofal a wnawn, hebddoch chi. Diolch.”

 

Mae'r Rhwydwaith Maethu yn elusen faethu flaenllaw yn y DU, a'u Gwobrau Rhagoriaeth Maethu yw gwobrau gofal maeth mwyaf mawreddog yn y DU.


Mae'r gwobrau yn dathlu rhagoriaeth a chyflawniad rhagorol mewn maethu ac yn cydnabod y rhai sydd wedi gwneud cyfraniadau i ofal maethu bob blwyddyn.

Mae angen rhagor o ofalwyr maeth ledled y DU. Mae gofalwyr maeth yn dod o bob mathau o gefndiroedd gwahanol ac maent yn hanfodol i adeiladu dyfodol gwell i blant.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy ynghylch maethu ar gyfer eich awdurdod lleol.

Chwilio A i Y