Cwmni bysiau lleol yn cadarnhau ei fod yn rhoi'r gorau i fasnachu
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 17 Mehefin 2022
Mae Easyway Minibus Hire Ltd wedi dweud wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y bydd yn rhoi'r gorau i fasnachu ar ôl 31 Gorffennaf 2022.
Gan nad oes yr un cwmni trafnidiaeth gyhoeddus masnachol arall wedi cadarnhau y bydd yn cymryd y llwybrau presennol dan ei ofal, bydd y penderfyniad yn golygu na fydd tri gwasanaeth bws penodol yn rhedeg ar ôl diwedd y mis.
Y gwasanaethau a effeithiwyd arnynt yw rhif 16 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Betws heibio Melin Wyllt, Ysbyty Tywysoges Cymru, Sarn a Brynmenyn, gwasanaeth 49 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac Oaklands heibio Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Broadlands a Llys Hanover, ac yn olaf gwasanaeth 81 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phenyfai heibio Melin Wyllt, Ysbyty Tywysoges Cymru, The Pines ac Ysbyty Glanrhyd.
Trist oedd clywed bod Easyway Minibus Ltd wedi penderfynu rhoi'r gorau i fasnachu. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithio'n agos â nhw dros y blynyddoedd, ac mae'r cwmni wedi cynnig gwasanaethau bws rhanbarthol a lleol yn yr ardal, trafnidiaeth o gartref i'r ysgol, gwasanaethau llogi preifat a mwy.
Mae'r cyngor eisoes wedi cysylltu â chwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus masnachol eraill ynghylch y posibilrwydd o gymryd cyfrifoldeb dros y llwybrau hyn, ac rydym yn hapus i drafod hyn ymhellach gyda nhw.
Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick
Bydd rhai o'r ardaloedd a effeithiwyd arnynt yn gallu defnyddio gwasanaethau bws amgen sy'n gweithredu'n gyfagos, ond gall pobl hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth Teithiwr Tref a gynigir gan Drafnidiaeth Gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn y cyfamser.
Gellir archebu'r gwasanaeth drws i ddrws hwn pan fo angen, ac mae'n defnyddio cerbydau hygyrch ac yn derbyn pasys bws teithio rhatach. Os hoffech ddysgu mwy, ffoniwch 01656 669665 neu ewch ar-lein: