Cwblhau gwaith seilwaith mawr ar safle cyflogaeth strategol newydd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 11 Tachwedd 2021
Mae cynlluniau ar gyfer safle cyflogaeth strategol newydd ym Mrocastell, Pen-y-bont ar Ogwr, gam yn nes erbyn hyn ar ôl cwblhau gwaith seilwaith mawr.
Mae’r safle 116 acer, sydd â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer arwynebedd llawr o hyd at 770,000 troedfedd sgwâr, wedi mynd trwy raglen waith a oedd yn golygu adeiladu ffyrdd hollbwysig a darparu cyfleustodau ar gyfer naw plot er mwyn datblygu mannau busnes modern i hybu twf economaidd a chreu swyddi.
Cafodd y gwaith, a wnaed gan gontractwr peirianneg sifil lleol, fwy na £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys oddeutu £6.2 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Fel rhan o’r cynlluniau, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Llwybr Teithio Llesol, a disgwylir i’r gwaith ar hwnnw ddechrau yn y Gwanwyn.
Medd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Rwy’n falch fod y gwaith o ddatblygu safle cyflogaeth strategol newydd ym Mrocastell wedi cael ei gwblhau bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n helaeth yn y gwaith o ddatblygu’r safle, er mwyn cynnig cyfleoedd parod-am-fuddsoddiad i fusnesau – mae hyn yn cyd-fynd â’n Cynllun Cyflawni Eiddo.
“Mae’r diddordeb a ddangoswyd yn y safle hyd yn hyn yn galonogol iawn. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at greu llu o swyddi newydd.”
Derbyniwyd ymholiadau gan nifer o ddatblygwyr eiddo a pherchen-feddiannwyr mewn amryw byd o sectorau.
Yn ôl Heather Lawrence, Cyfarwyddwr Diwydiannol a Logisteg yn JLL, sef yr asiantau marchnata a benodwyd ar gyfer y safle: “Mae Brocastell yn cynnig cyfle cyffrous i feddianwyr ddatblygu cyfleusterau mewn lleoliad strategol lle ceir mynediad at weithlu medrus a chysylltiadau cyfathrebu gwych.
“Mae’r gwaith a gwblhawyd ar y safle gan Lywodraeth Cymru yn sylweddol, gan sicrhau y bydd modd i Dde Cymru gynnig arlwy cystadleuol ar gyfer y farchnad.”
Mae amrywiaeth o blotiau i’w cael ar y safle, ac mae’n lleoliad delfrydol i fusnesau sefydlu canolfan, gan ei fod yn agos at yr A48, yr M4 a ffordd ddeuol yr A473.
Gan fod y prif seilwaith mawr wedi’i gwblhau bellach, byddem yn annog pawb sydd â diddordeb i gysylltu â JLL cyn gynted â phosibl er mwyn cael rhagor o wybodaeth.
Medd Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio
I gael rhagor o fanylion am y safle, edrychwch ar wefan JLL.