Cronfa newydd i helpu i wneud busnesau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy atyniadol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 02 Ebrill 2019
Mae cronfa newydd ar gael i helpu i wneud busnesau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy atyniadol.
Mae ‘Cronfa Gwella Eiddo Canol Trefi’ yn gronfa gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ac mae’n gallu cynnig cymorth ariannol ar gyfer gwaith adnewyddu tu blaen siopau, arwyddion, ffenestri a drysau, yn ogystal â gwella strwythur mewnol ac allanol adeiladau.
Yn ogystal â gwneud canol y dref yn fwy bywiog, nod y gronfa yw helpu i wneud eiddo gwag nad yw’n eiddo preswyl yn fwy atyniadol er mwyn ei osod, yn ogystal â gwneud busnesau sydd yno’n barod yn fwy hygyrch, cynyddu faint o bobl sy’n dod i ganol y dref a chreu swyddi. Ar hyn o bryd, rydym ni’n gwahodd perchnogion eiddo yng nghanol y dref i gyfleu diddordeb yn y cynllun, felly cysylltwch i gael rhagor o fanylion.
Bydd y cynllun gwelliannau masnachol hwn yn clymu’n ddel â’n cynlluniau ar draws y sir i sicrhau bod adeiladau gwag yn cael eu defnyddio eto. Mae hyn hefyd yn dilyn llwyddiant Menter Treftadaeth Treflun sydd wedi’i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r fenter hon wedi dwyn effaith fawr yng nghanol ein trefi ers dros ddegawd drwy roi’r cyllid i helpu perchnogion eiddo i adnewyddu adeiladau sydd wedi cael eu hesgeuluso.
Mae Adeilad Jennings ym Mhorthcawl ymysg yr adeiladau sydd wedi elwa o’r cynllun hwnnw, yn ogystal â thrawsnewid yr hen Victoria Inn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn Corvo Lounge. Rydym ni’n edrych ymlaen at weld pa welliannau a ddaw gyda’r cynllun diweddaraf hwn hefyd.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Adfywio ac Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae croeso i bobl sy’n berchen ar eiddo yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, a deiliaid prydles sydd ag o leiaf saith mlynedd ar ôl ar eu tenantiaeth, i fynegi eu diddordeb yn y Gronfa Gwella Eiddo Canol Trefi drwy anfon e-bost at regeneration@bridgend.gov.uk neu drwy ffonio Tracy Evans ar 01656 815209 i gael manylion.