Cronfa i gefnogi gweithwyr llawrydd creadigol
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 02 Hydref 2020
Mae cronfa newydd gwerth £7m yn cael ei lansio Ddydd Llun, 5 Hydref i gefnogi gweithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol a chreadigol sy'n wynebu heriau ariannol o ganlyniad i'r achosion o Covid-19.
Gall unigolion wneud cais am grant o £2,500 a gofynnir iddynt wirio eu cymhwysedd cyn i'r broses ymgeisio agor drwy fynd at y Gwiriwr Cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Adferiad Diwylliannol.
Bydd y gronfa'n agored i weithwyr llawrydd yn is-sectorau'r celfyddydau, diwydiannau creadigol, digwyddiadau celf a threftadaeth, o fewn diwylliant a threftadaeth, ac unigolion sy'n creu canlyniadau creadigol a diwylliannol fel rhan o'u gwaith.
Mae ein diwydiannau creadigol a diwylliannol wedi cael eu taro'n arbennig o galed yn ystod y pandemig gyda phrosiectau'n gorfod cael eu canslo neu eu gohirio.
Mae'r cyllid hwn wedi'i greu'n arbennig ar gyfer is-sectorau creadigol a diwylliannol, a rolau sydd wedi cael eu gorfodi i roi'r gorau i weithio a/neu'n wynebu trafferthion ailgychwyn oherwydd dylanwad y cyfyngiadau Covid-19. Mae'n bresennol er mwyn cefnogi gweithwyr llawrydd yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2020 - Mawrth 2021.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David
Wrth gyhoeddi'r gronfa'n gynharach yr wythnos hon, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Mae'r sector llawrydd yn rhan mor bwysig o economi Cymru - gyda nifer sylweddol o weithwyr llawrydd yn gweithio yn y sectorau diwylliannol a chreadigol.
Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu darparu cefnogaeth - i gynnal ein gweithwyr llawrydd yn ystod y cyfnod heriol hwn a chydnabod cyfraniad yr unigolion hyn i'r economi, ein cymunedau a'r sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru."
Mae'r grant yn ceisio ategu mesurau eraill mewn ymateb i Covid-19 er mwyn cefnogi sefydliadau a busnesau yng Nghymru fel rhan o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol.
Mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grant fel a ganlyn:
- Yn wynebu heriau ariannol yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2020 - Mawrth 2021.
- Gweithwyr llawrydd proffesiynol sy'n creu canlyniadau creadigol/diwylliannol uniongyrchol yn eu gwaith, sy'n gweithio o fewn y pedwar is-sector allweddol: Y Celfyddydau; Diwydiannau Creadigol; Digwyddiadau Celf a Threftadaeth; Diwylliant a Threftadaeth
- Rhaid i chi fod yn gweithredu yng Nghymru.
- Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli o fewn yr awdurdod lleol rydych chi'n gwneud cais iddo.
Nid ydych yn gymwys ar gyfer y grant hwn os:
- Yn ddiweddar, rydych wedi derbyn cyllid gan y Grant Cychwyn Busnes a lansiwyd fis Mehefin 2020 i helpu busnesau newydd oroesi canlyniadau economaidd y coronafeirws (Covid-19);
- Rydych yn weithiwr llawrydd sy'n gweithio yn y sector chwaraeon.
Rhagor o wybodaeth am y cynllun gan gynnwys Canllaw Cronfa Gweithwyr Llawryddatudalen we a chasgliad o gwestiynau cyffredin ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Er mwyn rhoi digon o amser i weithwyr llawrydd wneud cais caiff y gronfa ei rhannu'n ddau gam, gyda'r cam cyntaf yn gweithredu am gyfnod byr cyn i'r ail gam ei ddilyn.
Prosesir ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin. Gall hyn arwain at beidio cymeradwyo ceisiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw'r gronfa wedi ymrwymo'n llawn.
Gofynnir i unigolion sy'n gymwys ar gyfer y grant ac yn awyddus i wneud cais gwblhau'r ffurflen gais o 5 Hydref 2020.