Cronfa gwerth £150,000 i fusnesau wneud gwelliannau awyr agored
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 11 Awst 2021
Bydd nifer o fusnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael grant o hyd at £10,000 i helpu i osod cyfleusterau awyr agored gan gynnwys ardaloedd eistedd, gasebos a gwresogyddion tu allan.
Mae’r Gronfa Adfer Covid-19 ar gyfer Gwelliannau Awyr Agored wedi targedu ardaloedd allanol lle mae cwsmeriaid ac aelodau o'r cyhoedd yn gallu cwrdd, ymlacio neu fwynhau bwyd a diod. Ariannwyd cam cyntaf ac ail gam y rhaglen gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, tasglu'r Cymoedd a rhaglen Buddsoddi Adfywio Targedig Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o'r trydydd cam, a ariannwyd yn llawn gan yr awdurdod lleol, mae perchnogion eiddo masnachol a busnesau a wnaeth gais yn gynharach eleni am grantiau wedi gallu prynu addasiadau yn amrywio o ganopïau awyr agored a dodrefn i blanwyr, gwres awyr agored, sgriniau a mwy. Mae o leiaf 20 y cant o gyfanswm costau'r prosiect yn cael ei dalu gan yr ymgeisydd.
Dewisodd y cyngor gefnogi trydydd cam o'r grant oherwydd y galw a llwyddiant y cyfnodau a gefnogwyd yn flaenorol a helpodd 72 o fusnesau.
Gwahoddwyd cyfanswm o 38 o fusnesau, a roddwyd ar restr aros yn dilyn y rownd ddiweddaraf o geisiadau, i gyflwyno ceisiadau. Gyda 19 o geisiadau wedi dod i law, mae 11 nawr wedi bod yn llwyddiannus ac yn aros am eu cyllid. Disgwylir i’r ceisiadau sy’n weddill gael eu cymeradwyo yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ymhlith y rhai a fydd yn elwa o'r cynllun mae Clwb Criced Tondu a’r Masons Arms yn Nantyffyllon sydd yn bwriadu prynu dodrefn awyr agored gyda'r grant, Clwb Athletau Cefn Cribwr sydd am ymestyn ei ardal falconi gyda seddi awyr agored a'r Swan Inn, yn Nhrenewydd yn Notais, sydd am gael adlen ôl-dynadwy ar gyfer blaen y dafarn.
Yn ogystal, mae Clwb Rygbi Nantyffyllon yn bwriadu defnyddio’r cyllid ar gyfer gasebos a dodrefn awyr agored tra bydd Cozy Corner Lounge ym Mhorthcawl eisiau prynu gwresogyddion, sgriniau awyr agored a decin, ac mae’r Fox and Hounds ym Mro Ogwr yn bwriadu adeiladu gardd gwrw.
Mae Clwb Golff Maesteg yn gobeithio gosod cysgod rhag y gwynt ar gyfer ei gyfleusterau awyr agored yn ogystal â rhywfaint o ddodrefn awyr agored, mae Clwb Pen-y-bont yn bwriadu prynu goleuadau tu allan ac mae Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Maesteg yn bwriadu prynu dau gasebo awyr agored parhaol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae dwsinau o fusnesau a sefydliadau wedi elwa o’r Gronfa Adfer Covid-19 ar gyfer Gwelliannau Awyr Agored.
Bydd pob grant o’r gronfa ddiweddaraf hon gwerth £150,000 yn hwb ariannol i’w groesawu i fusnesau sydd wedi cael eu taro’n galed gan y pandemig coronafeirws, gan helpu i gynyddu eu gallu i groesawu cwsmeriaid mewn lleoliadau awyr agored.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau