Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cronfa cymorth busnes ychwanegol yn agored i geisiadau

Gall busnesau, mentrau cymdeithasol, elusennau a busnesau yn y gadwyn gyflenwi gysylltiedig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi profi effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus Covid-19, nawr wneud cais am ragor o gyllid.

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y pecyn o gymorth busnes ar gael drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF).

Mae'r grant yn agored i geisiadau o heddiw ymlaen (dydd Llun 26 Gorffennaf) a bydd yn parhau i fod yn agored am bythefnos.

Mae'n agored i fusnesau ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â throsiant o lai na £85,000, a chaiff ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd yn darparu grantiau ar ffurf grantiau arian parod o hyd a £10,000 i fusnesau cymwys i helpu i dalu am gostau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 30 Awst 2021.

Yn benodol, bydd y Gronfa Cadernid Economaidd yn cefnogi busnesau sydd naill ai:

  • Categori a) - Yn gorfod aros ar gau neu'n methu â masnachu oherwydd cyfyngiadau parhaus rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021
  • Categori b) - Atyniadau a gofod digwyddiadau unigryw sy'n cael eu heffeithio'n ddifrifol gan reoliadau cadw pellter cymdeithasol parhaus
  • Categori c) - Busnesau eraill sydd â throsiant gostyngol o 60 y cant neu fwy o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus ers 1 Mai ac nad oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai 2021
  • Categori d) - Busnes y gadwyn gyflenwi sy’n cynhyrchu 60 y cant neu fwy o’i refeniw gwerthu o fusnesau sy’n berthnasol i gategorïau a), b) a/neu c)

AC 

Wedi profi effaith negyddol sylweddol drwy drosiant gostyngol o 60 y cant neu fwy ym mis Gorffennaf a mis Awst 2021 mewn cymhariaeth â mis Gorffennaf a mis Awst 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau parhaus Covid-19.

I gael gwybod mwy, neu i wneud cais, ewch i dudalennau gwe cyllid busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Rydym yn annog pob busnes cymwys i wneud cais cyn gynted â phosibl drwy wefan yr awdurdod lleol. Mae’n bwysig nodi nad oes taliadau awtomatig yn cael eu gwneud ar gyfer busnesau mewn perthynas â'r gronfa hon.

Mae'r cyfnod ymgeisio yn agored am bythefnos yn unig - fel yr arfer, byddwn yn gweithio cyn gyflymed â phosibl i sicrhau bod ceisiadau yn cael eu prosesu wrth iddynt ein cyrraedd.

Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David

Mae proses ymgeisio ar wahân yn cael ei chynnal dan law uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau sydd â throsiant o dros £85,000. Bydd hon yn dod i ben hanner dydd, dydd Mawrth 27 Gorffennaf. Am ragor o wybodaeth ynghylch hyn, ewch i wefan Busnes Cymru.

Dylai'r lefelau trosiant fod ar gyfer blwyddyn o fasnachu arferol neu amcangyfrif os yw’r busnes wedi dechrau ar ôl Mawrth 2020.

Chwilio A i Y