Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cronfa costau byw dewisol yn barod i'w lansio

Bydd Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio ei gronfa costau byw dewisol ar 1 Hydref, gyda'r nod o gynnig cymorth pellach i drigolion yn ystod yr argyfwng costau byw. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu dros £1.2 miliwn i'r cyngor, a bydd y cymorth yn targedu'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Bydd aelwyd yn gymwys am daliad cymorth dewisol o £150 os ydynt, ar 1 Awst 2022:

  • Yn gyfrifol am y dreth gyngor ar eiddo
  • Yn byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa, ac yn gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau a biliau cysylltiedig rheolaidd eraill ar gyfer yr eiddo

Ac

  • Wedi derbyn Gostyngiad Band Anabledd yn y Dreth Gyngor a heb dderbyn taliad costau byw eisoes dan y prif gynllun.

Neu

Os oeddynt wedi'u heithrio rhag talu'r Dreth Gyngor ar 1 Awst 2022 am un o'r dosbarthiadau canlynol:

  • Nam meddyliol difrifol
  • Yn darparu gofal
  • Yn derbyn gofal
  • Wedi gadael gofal
  • Dan 18 oed, ac yn byw eu hunain
  • Yn fyfyriwr llawn amser

 Hefyd, bydd aelwydydd bandiau E ac F y dreth gyngor nad ydynt yn derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor ar 1 Awst yn derbyn £60.

Bydd taliad untro o £150 yn cael ei dalu i deuluoedd sy'n byw mewn llety dros dro ar 1 Awst gyda thaliad o £50 yn cael ei wneud i'r unigolion hynny sy'n byw mewn llety dros dro, ynghyd â thaleb gwerth £50 ar gyfer pob plentyn mewn teulu sydd â phlant yn gymwys am ginio ysgol rhad ac am ddim ar 1 Awst.

Ni fydd y cynllun yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill mae aelwydydd cymwys yn eu cael ar hyn o bryd na thaliadau'r dreth gyngor sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd.

Bydd y rhan fwyaf o'r arian cymorth dewisol yn cael ei ddyrannu i aelwydydd yn awtomatig. Bydd yr aelwydydd hyn yn derbyn llythyr hysbysiad talu gyda thaliadau yn cael eu gwneud i'w cyfrifon banc yn uniongyrchol. Bydd gweddill yr aelwydydd yn derbyn llythyr neu e-bost yn gofyn am eu manylion banc er mwyn gwneud y taliad.

Disgwylir i daliadau uniongyrchol ddechrau cael eu gwneud i aelwydydd cymwys o 1 Hydref 2022, pan fo disgwyl i'r cynllun arfaethedig ddechrau. Disgwylir i'r cynllun redeg tan 31 Mawrth 2023.

Derbyniodd aelwydydd ym mandiau A - D gymorth drwy dderbyn taliad yn ystod y cam cyntaf o daliadau yn gynharach eleni.                                                                           

Bydd yr hwb ariannol hwn gan Lywodraeth Cymru yn cynnig achubiaeth hanfodol i nifer o aelwydydd ym Mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r rhain yn amseroedd heriol iawn, gyda'r argyfwng costau byw yn parhau i achosi anawsterau i ystod eang o bobl. Gyda hynny mewn golwg, mae'n bwysig ein bod yn parhau i gynnig cymaint o gymorth â phosib.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Os oes angen unrhyw help arnoch chi, cysylltwch â'r cyngor ar ôl i'r cynllun lansio, anfonwch e-bost at: col@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643643. Bydd rhagor o fanylion am y cynllun ar gael ar wefan y cyngor.

Chwilio A i Y