Croeso cynnes i gynllun rhwydwaith gwres Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Ebrill 2018
Mae Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi estyn croeso cynnes i gynlluniau ar gyfer rhwydwaith gwres i gysylltu cartrefi ac adeiladau cyhoeddus ledled Pen-y-bont ar Ogwr yn y pen draw.
Dechreuodd y cyngor ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer rhwydwaith gwres yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr chwe blynedd yn ôl i leihau allyriadau carbon a gostwng biliau ynni trigolion lleol.
Erbyn hyn, y mae wedi cyflwyno cynnig a fydd yn cysylltu adeiladau cyhoeddus ger Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn gallu trosglwyddo’r gwres gormodol a gaiff ei gynhyrchu gan y boeler yno trwy bibau tanddaearol i gynhesu’r Swyddfeydd Dinesig, y Neuadd Fowlio a’r datblygiad arfaethedig ar safle Sunnyside.
Y bwriad yw y bydd y cynllun yn gwbl weithredol erbyn mis Hydref 2020, ac y bydd camau eraill wedyn i ehangu’r rhwydwaith gwres o’r adeiladau craidd cychwynnol hynny er mwyn iddo gysylltu ardaloedd preswyl dwys fel Bracla, yn ogystal â dwsinau o ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill.
Cost adeiladu cam cyntaf y cynllun fydd rhyw £2 miliwn a bydd y cyngor yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau’r pecyn cyllid ar gyfer y prosiect.
Bydd angen ffurfio cwmni i redeg y rhwydwaith gwres ac awgrymir y gallai’r awdurdod lleol greu Cerbyd Diben Arbennig i wneud hyn. Bydd gofyn i Aelodau Cabinet ystyried y mater ym mis Hydref 2018.
Bydd cynllun rhwydwaith gwres yn gonglfaen ar gyfer ein cynlluniau i ddatgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r rhan fwyaf o adeiladau unigol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi’u cynhesu gan foeleri sydd wedi’u tanio gan danwydd ffosil. Ni all y dull carbon dwys hwn barhau os ydym am gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i gyflawni gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.
Rhwydweithiau gwres yw’r ffordd ymlaen. Bydd y prosiect hirdymor hwn yn arwain at fuddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol yn yr ardal. Bydd arbedion ar filiau ynni ar gyfer adeiladau sydd wedi’u cysylltu i’r rhwydwaith a fydd yn cynyddu’n flynyddol wrth i brisiau ynni ar y grid gynyddu.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau
“Bydd buddsoddi yn y cynllun hwn yn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi hefyd, yn ymdrin â’r tlodi tanwydd a’r anghydraddoldeb iechyd ymhlith trigolion, ac yn darparu cyfleoedd cadwyn cyflenwi i fusnesau lleol.”
Mae Aelodau Cabinet wedi cymeradwyo amlinelliad o achos busnes y prosiect sy’n esbonio sut y bydd y costau sefydlu cychwynnol o £2 miliwn yn cael eu hysgwyddo.
Ychwanegodd y Cynghorydd Young: “Rydym yn falch o gefnogi’r fenter arloesol hon ond yn cydnabod bod y cam cyntaf yn dibynnu ar gais llwyddiannus am £665,000 trwy Raglen Grantiau HNIP Llywodraeth y DU. Byddwn yn cyflwyno’r cais hwn yn ddiweddarach eleni. Bydd angen cymeradwyo achos busnes llawn hefyd, ond mae’r cyfleoedd i arbed ynni a gostwng allyriadau carbon yn hynod gyffrous.”