Croesawu ymwelwyr yr haf hwn i fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 23 Gorffennaf 2021
Bydd stiwardiaid croesawu ymwelwyr yn cyfarch ymwelwyr ym Mhorthcawl a chanol trefi ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr haf hwn.
Bydd stiwardiaid croesawu ymwelwyr a ddechreuodd yr wythnos hon mewn pryd ar gyfer penwythnos cyntaf gwyliau’r haf, yn rhoi croeso cyfeillgar i ymwelwyr, gan gynnig cyngor a gwybodaeth am leoedd cyfagos i ymweld â nhw a'u mwynhau, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl ar drafnidiaeth gyhoeddus, parcio ceir, diogelwch traethau, toiledau cyhoeddus a mwy.
Mae Jacqui Rava, sy'n un o'r stiwardiaid newydd, yn adnabod y fwrdeistref sirol yn dda ar ôl symud i Borthcawl pan oedd hi'n 11 oed. Bellach wedi lled-ymddeol, bu hefyd yn rhedeg bwyty yn y dref am flynyddoedd lawer.
Dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen yn arw at gwrdd â phobl o bob cefndir gwahanol a'u helpu i gael y gorau o'r ymweliad â'r fwrdeistref sirol, gan roi profiad cadarnhaol iddynt. Mae cymaint i'w weld a'i wneud yma."
Symudodd Martin Curry, stiward arall, i Gymru o Billericay yn Essex ar ôl priodi merch ei freuddwydion o'r Barri – yn union fel Gavin a Stacey yn y gyfres boblogaidd.
Dywedodd Martin, sydd bellach yn byw ym Mhencoed: "Y prif reswm dros fod eisiau bod yn stiward ymwelwyr yw oherwydd fy mod i'n mwynhau cwrdd â phobl.
"Rwy'n caru'r ardal, mae rhywbeth i bawb yma, ac rwy'n edrych ymlaen at helpu pobl i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud y gorau o'u diwrnod. Does dim byd mwy rhwystredig na gwastraffu eich diwrnod drwy geisio darganfod ble mae popeth."
Mae'r myfyriwr, Eve Davies, yn aelod arall o'r tîm newydd. O Faesteg, mae Eve ym Mhrifysgol Caerfaddon ar hyn o bryd yn astudio Dylunio Ffasiwn ond mae wedi dychwelyd i fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr haf hwn i helpu ymwelwyr.
Dywedodd: "Mae'r fwrdeistref sirol yn lle gwych i ymweld ag ef – fy awgrym gorau i unrhyw un sy'n dod yma yw eich bod yn cael hwyl.
"Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd a’u helpu i wneud y gorau o'u hamser yma."
Gyda'r cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio a’r tymor twristiaeth bron yma, rydym yn falch o allu croesawu ymwelwyr eto ac rydym am sicrhau bod pawb sy’n ymweld â’n bwrdeistref sirol yn cael y profiad gorau posibl ac yn gwneud y gorau o’u hamser yma.
Mae'r Stiwardiaid Croesawu Ymwelwyr yn rhan o'n cefnogaeth barhaus i fusnesau wrth iddynt ailagor ac rydym yn gobeithio y gall pawb sy'n ymweld â Phorthcawl gael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt.
Os ydych chi'n gweld unrhyw un o'n saith stiward allan yr haf hwn, cofiwch stopio am sgwrs a gofyn am ychydig o awgrymiadau da ar beth i'w wneud.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau