Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Croesawu pleidleiswyr i orsafoedd pleidleisio

Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor heddiw (dydd Iau 6 Mai) o 7am tan 10pm ar gyfer etholiadau'r Senedd a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Yn Nantymoel, mae gorsafoedd pleidleisio yn cynnal is-etholiad lleol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd pellter cymdeithasol ar waith yn y gorsafoedd pleidleisio, ac efallai y bydd yn rhaid i chi giwio gan fod cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael bod yn yr adeilad ar yr un pryd. Bydd unrhyw un sydd mewn ciw erbyn 10pm yn dal yn cael pleidleisio.

Mae glanhau rheolaidd yn digwydd ym mhob gorsaf bleidleisio yn ystod y dydd a darperir diheintydd dwylo. Noder, oni bai eich bod wedi'ch eithrio, rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb cyn mynd i mewn i orsaf bleidleisio.

Bydd arwyddion clir a gwybodaeth ychwanegol ym mhob gorsaf bleidleisio yn dangos i chi ble i fynd a sut i gynnal pellter diogel oddi wrth bleidleiswyr eraill.

Mae pensiliau glân ar gael os oes angen, ond anogir pleidleiswyr i ddod â'u beiro neu bensil eu hunain i farcio eu papurau pleidleisio.

Os oes gennych symptomau o goronafeirws, neu rydych yn hunanynysu, peidiwch â mynd i orsaf bleidleisio a rhoi eraill mewn perygl. Yn hytrach, gallwch drefnu i rywun bleidleisio ar eich rhan trwy wneud cais am bleidlais ddirprwy frys - ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol i gael mwy o fanylion.

Chwilio A i Y