Criwiau’n gweithio i ddelio â llifogydd drwy’r nos
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 05 Hydref 2021
Mae staff o’r cyngor wedi bod yn gweithio drwy’r nos i ddosbarthu bagiau tywod, clirio gwteri a chafnau ac atal llifogydd helaeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dechreuodd y gwaith paratoi ar gyfer tywydd difrifol ddiwrnodau ymlaen llaw wrth i weithwyr wirio a glanhau ceuffosydd allweddol i sicrhau eu bod nhw’n glir cyn i’r glaw trwm gyrraedd.
Fe achosodd y glaw a ddisgynnodd nifer o broblemau, a chanwyd sawl larwm ceuffosydd yn ardaloedd megis Greenacre a Min Y Nant ym Mhencoed wrth i lefelau’r dŵr godi. Fodd bynnag, llwyddodd y ceuffosydd i ymdopi â’r dŵr ac ni achoswyd iddynt orlifo.
Cafodd nifer o gafnau eu llenwi ar ôl i’r glaw achosi i ddeunydd gael ei gario o gaeau a thir cyfagos, ac roedd yn rhaid eu clirio oddi ar ffyrdd ger Goetre-hen, Llidiart, Brynmenyn, Abercynffig a’r Drenewydd.
Roedd yn rhaid i griwiau hefyd glirio cafnau oedd wedi’u llenwi ar yr A48 yn Stormy Down a’r A4093 rhwng Melin Ifan Ddu a Glynogwr, ac roedd yn rhaid i ddwy ffordd - Ffordd Marlas yn y Pîl a Ffordd New Inn ger y Bont Drochi ym Merthyr Mawr - gau dros dro wrth i lefel dŵr yr afon godi.
Derbyniodd gweithwyr sawl cais am gymorth rhwng 7pm a 4am, a dosbarthwyd bagiau tywod i eiddo yn Wigan Terrace, Bryncethin, Dyffryn Madog ym Maesteg, Heol y Cyw, Lewistown, West Drive ym Mhorthcawl, Heol Pantyrawel ym Melin Ifan Ddu, Cartref Gofal Anwen ym Mhantyrawel, Fairways yng Ngogledd Corneli, Craiglas yn Llangeinor a Heol y Frenhines yng Nghefn Glas.
Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos sut mae’r cyngor yn gweithio bob awr o’r dydd i helpu i gadw pobl yn ddiogel a ffyrdd yn glir.
Roedd ein gweithwyr allan gyda’r wawr i glirio llanast a deunydd oedd yn sefyll ar ôl y glaw trwm, ac i wirio rhwydwaith y ceuffosydd, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion gwych.
Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau