Craffu ar gynigion gwastraff ac ailgylchu newydd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 01 Gorffennaf 2022
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu mewnbwn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac mae wedi ymrwymo i drafod y cynigion gwastraff ac ailgylchu newydd yn agored wrth i'r broses fynd yn ei blaen.
Hoffem ategu bod trafodaethau cadarn wedi'u cynnal ac mae'r holl opsiynau'n cael eu harchwilio gyda'r bwriad o sicrhau bod trigolion yn cael y gwasanaeth gorau posibl.
Mae cynnig contract dros dro yn un o ystod o opsiynau sy'n cael eu hystyried, ar ôl i Kier gadarnhau eu bod yn bwriadu gadael y farchnad rheoli gwastraff pan fydd eu contract yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2024.
Mae craffu'n rhan bwysig o'r broses gwneud penderfyniadau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a byddwn yn sicrhau bod pob agwedd ar y cynnig hwn yn cael eu hystyried yn fanwl cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.
Fel yr eglurais yng nghyfarfod gwreiddiol y Cabinet, rydym yn awyddus i'r holl aelodau etholedig gymryd rhan yn y broses drosolwg a chraffu hon, ac rydym yn croesawu eu barn.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr