Corneli Waelod i ddod yn bentref carbon isel cyntaf Cymru
Poster information
Posted on: Dydd Iau 03 Mawrth 2022
Menter rhannu ynni gwyrdd arloesol newydd dan arweiniad y cyngor ar y ffordd i greu pentref carbon isel cyntaf Cymru yng Ngwaelod Corneli.
Nod y Fenter Cymunedau Carbon Isel yw gweld sut y gellir rhannu trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol o ganlyniad i bŵer solar â chartrefi eraill cyfagos.
Lansiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar y cyd â Challoch Energy, NuVision Energy Wales Ltd, Passiv UK a Llywodraeth Cymru, y cynllun er mwyn archwilio’r potensial o greu Marchnadoedd Ynni Lleol lle gellir masnachu trydan adnewyddadwy â chartrefi sy’n cymryd rhan.
Cafodd nifer fach o aelwydydd yn ardal Gwaelod Corneli a wirfoddolodd ar gyfer y cynllun paneli solar arloesol, awyru solar a batris ynni yn cael eu gosod yn eu heiddo.
Mae'r dechnoleg wedi'i chysylltu â'i gilydd trwy feddalwedd rheoli ynni cartref (HEMS) a fydd yn y pen draw yn caniatáu i ynni adnewyddadwy gael ei rannu ag aelodau eraill o'r Gymuned Carbon Isel.
Dewiswyd Corneli Waelod fel y safle oherwydd maint a lleoliad y pentref, ac oherwydd bod tai yn cael eu bwydo o un is-orsaf yng nghanol y pentref. Mae llawer o’r tai hefyd mewn lleoliad da iawn i elwa o ynni’r haul.
"Mae’r cynllun yn un o nifer o brosiectau y mae'r cyngor yn gweithio arnynt fel rhan o'r strategaeth ddatgarboneiddio 'Pen-y-bont ar Ogwr 2030' i wneud Pen-y-bont ar Ogwr yn fwrdeistref sirol ddatgarbonedig, glyfar wedi'i chysylltu'n ddigidol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o fod yn rhan o’r treial arloesol hwn i wneud Gwaelod Corneli yn bentref carbon isel cyntaf Cymru.
Trwy greu marchnadoedd ynni lleol fel hyn, lle gellir masnachu trydan adnewyddadwy ymhlith cartrefi, rydym yn gobeithio grymuso cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddatgarboneiddio a helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol.
Os bydd canlyniadau’r cynllun prawf hwn yn gadarnhaol, gobeithio y byddwn yn gallu cyflwyno cynlluniau tebyg i ardaloedd eraill yn y dyfodol
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David