Cofrestru ar agor ar gyfer tanysgrifio i’r gwasanaeth gwastraff gardd 2022
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 28 Ionawr 2022
Gall trigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach gofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd y cyngor, a fydd yn dychwelyd y gwanwyn hwn.
Mae Kier, partner gwastraff y cyngor lleol, yn rhoi cyfle i 100 o drigolion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ennill tanysgrifiad am ddim i'r gwasanaeth am flwyddyn.
Bydd enillwyr yn cael eu dewis ar hap o'r bobl hynny sydd wedi cofrestru ar-lein ar gyfer casgliadau, a byddwn yn cysylltu â nhw ym mis Mawrth i ad-dalu eu taliad.
Cesglir gwastraff gardd bob pythefnos, a bydd casgliadau'n cael eu cynnal o 14 Mawrth 2022 hyd at 18 Tachwedd 2022. Cewch wybod diwrnod casglu eich gwastraff gardd wrth i chi gael eich sachau. Gosodwch eich sachau ar ochr y pafin rhwng 7pm noson ynghynt a 7am ar ddiwrnod y casgliad.
Mae’r gwasanaeth tanysgrifio poblogaidd hwn yn cynnig ffordd hynod gyfleus o gasglu eich gwastraff gwyrdd o du allan i’ch eiddo.
Bydd y bobl hynny sydd wedi cofrestru yn derbyn dau fag, a gallant ailgylchu gwastraff gwyrdd fel planhigion, blodau, chwyn, gwair, dail a thoriadau o wrychoedd.
Mae pobl yn gofyn weithiau, pam bod rhaid i drigolion dalu am y cynllun – rydym yn credu fod cynllun opsiynol yn fwy teg, gan nad oes gan bob cartref yn y fwrdeistref sirol ardd, felly gall y bobl hynny sydd eisiau derbyn y casgliadau ddewis talu amdanynt.
Dirprwy arweinydd Hywel Williams
Hyd nes ddiwedd mis Mawrth 2022, mae costau’n sefydlog yn £38.91 fesul aelwyd, £34.85 ar gyfer pensiynwyr ac mae sachau ychwanegol yn £5.08. Ond gallai’r prisiau godi ym mis Ebrill.
I gofrestru, ewch i wefan Ailgylchu dros Ben-y-bont ar Ogwr.