Cofrestru am y gwasanaeth gwastraff gardd ar-lein
Poster information
Posted on: Dydd Llun 03 Chwefror 2020
Gall garddwyr gofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a fydd yn dychwelyd yn y gwanwyn.
Bydd casgliadau bob pythefnos yn golygu eich bod yn gallu ailgylchu gwastraff o’r ardd, gan gynnwys planhigion, blodau, chwyn, glaswellt, dail a brigau llwyni.
Bydd y casgliadau’n cychwyn ddydd Llun 16 Mawrth ac yn para drwy gydol y prif dymor tyfu, tan ddydd Gwener 13 Tachwedd. Ar hyn o bryd, codir tâl blynyddol o £38.80 yr aelwyd, neu £34.30 i bensiynwyr.
Ar ôl cadarnhau’r taliad, bydd cartrefi yn cael dau fag mae modd ei ailddefnyddio ar gyfer eu gwastraff gardd, ynghyd â manylion ynghylch amseroedd casglu eu bagiau. Os ydych chi’n gwsmer sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth o’r blaen ac nad oes angen bagiau newydd arnoch chi, byddwn yn anfon calendr atoch chi yn nodi pryd bydd y bagiau’n cael eu casglu.
Mae’r ffi danysgrifio yn cynnwys casglu dau fag gwastraff gardd – bydd unrhyw gartrefi sy’n dymuno rhoi rhagor o fagiau gwastraff allan bob pythefnos yn gallu dewis talu £5 am bob bag ychwanegol.
Y ffordd hawsaf o danysgrifio yw mynd ar-lein i https://bridgend.kier.co.uk. Bydd 50 o’r ymgeiswyr ar-lein yn cael eu dewis ar hap i gael gwasanaeth am ddim drwy gydol 2020.
Mae’r cynllun hwylus hwn yn cael ei gynnal ar y cyd â’n partneriaid ailgylchu, Kier, ac mae’r holl wastraff gardd sy’n cael ei gasglu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ddanfon i gwmni lleol Cowbridge Compost i gael ei droi i mewn i wrtaith.
Yn 2019, casglwyd dros 946 tunnell fetrig o wastraff gardd, a gafodd ei ailgylchu yn hytrach na mynd i’r domen. Mae hynny’n 292 tunnell yn fwy na 2018.
Gofynnir i ni’n aml pam mae’n rhaid i drigolion dalu am y cynllun casglu gwastraff gardd. Oherwydd bod dim gardd gan bob cartref yn y fwrdeistref sirol, rydyn ni’n meddwl ei bod yn decach ei wneud yn gynllun dewisol, sy’n golygu bod y cartrefi sydd eisiau i ni gasglu gwastraff ganddynt yn gallu dewis talu am hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Gellir mynd â gwastraff o’r ardd i’r ‘domen’ yn y canolfannau ailgylchu yn Llandudwg, Stad Ddiwydiannol Brynmenyn, a Stad Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn ym Maesteg. I gael rhagor o fanylion am ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch I wefan recycle for bridgend.