Cofiwch ailgylchu y Calan Gaeaf hwn trwy ail-gylchu eich pwmpenni
Poster information
Posted on: Dydd Llun 29 Hydref 2018
Mae cartrefi ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i ailgylchu y Calan Gaeaf hwn trwy ailgylchu’r pwmpenni maen nhw wedi’u defnyddio fel rhan o'u casgliadau gwastraff bwyd wythnosol.
Gofynnir i drigolion dynnu unrhyw gŵyr cannwyll o’r bwmpen, a’i rhoi yn gyfan wrth ochr gweddill eu gwastraff ailgylchu, neu ei thorri'n ddarnau hydrin cyn eu rhoi yn y cadi ailgylchu bwyd.
Caiff yr holl wastraff bwyd a gesglir o gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gludo i ffatri dreulio anaerobig Agrivert yn Stormy Down, lle caiff ei droi'n drydan i gyflenwi ein cartrefi a'n cymunedau lleol.
Mae hefyd yn cynhyrchu gwrtaith y gellir ei ddefnyddio gan ffermydd. Ar y llaw arall, os yw gwastraff bwyd yn dod i ddiwedd ei oes mewn safle tirlenwi, mae'n pydru ac yn cynhyrchu methan, sy'n nwy tŷ gwydr niweidiol.
Gallai ailgylchu croen un bwmpen yn unig gynhyrchu digon o ynni i wefrio gliniadur dair gwaith, neu bweru teledu am ddwy awr!
Gwyddwn fod y rhan fwyaf o drigolion lleol yn ailgylchwyr brwd, felly, hoffem roi gwybod iddynt y gallent roi eu pwmpenni Nos Galan Gaeaf allan gyda'u gwastraff ailgylchu yn hytrach na'u rhoi mewn bag bin. Mae'n hawdd iawn ailgylchu gwastraff bwyd, ac mae popeth yr ydych yn ei ailgylchu yn helpu'r amgylchedd.
Wrth i Nos Galan Gaeaf ddod yn fwy poblogaidd, mae'n gyfnod lle cynhyrchir cyfeintiau brawychus o wastraff. Ond mae digonedd o gyngor ar gael ar wefan Ailgylchu dros Gymru i helpu pobl i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, gan gynnwys llawer iawn o ryseitiau blasus i wneud y gorau o'ch pwmpenni. Ewch i'w gwefan, https://www.recycleforwales.org.uk/cy/bwyd i ddysgu mwy.
Cynghorydd Hywel Thomas, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Gall unrhyw drigolion Pen-y-bont ar Ogwr nad ydynt â biniau ailgylchu bwyd eisoes ofyn am rai ar-lein yng ngwefan Kier, neu drwy ffonio 01656 643643, neu drwy anfon e-bost at recyclingandwaste@bridgend.gov.uk