Clybiau a'r cyngor i gydweithio i gynnal a chadw pafiliynau chwaraeon
Poster information
Posted on: Dydd Llun 19 Ebrill 2021
Mae un o sêr byd rygbi Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth i drafodaethau rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Clwb Rygbi Bridgend Athletic a Chlwb Rygbi Bridgend Sports ynghylch gweithio mewn partneriaeth i gynorthwyo gyda'r gwaith cynnal a chadw ar y pafiliynau yng Nghaeau Newbridge.
Mae'r awdurdod lleol eisoes wedi cwblhau gwaith adeiladu hanfodol ar y Pafiliwn Newydd a Phafiliwn y Bandstand, a oedd mewn cyflwr gwael.
Mae'r Pafiliwn Newydd wedi cael cladin wal newydd a gwell cyfleusterau yn yr ystafell gawodydd, gan gynnwys llawr teils, ac mae'r tu allan wedi cael ei addurno. Mae Pafiliwn y Bandstand wedi cael to newydd.
Oherwydd pwysau cynyddol ar y gyllideb, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio'n galed gyda chlybiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned i helpu i reoli a chynnal cyfleusterau y gellid eu colli fel arall.
Mae gan y cyngor hanes hir o fuddsoddi mewn cyfleusterau sy'n ceisio helpu pobl i fyw bywyd iachach ac mwy egnïol, yn amrywio o ddarparu meysydd chwaraeon bob tywydd newydd i raglenni sy'n ceisio helpu pobl o bob oed i wneud mwy o chwaraeon, neu drwy ddarparu pethau fel Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (gwerth £4.2m), Canolfan Chwaraeon Bracla (gwerth £1.8m), y gwelliannau gwerth £500,000 yn y Ganolfan Fowlio Dan Do a mwy.
Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gorfod datblygu ffyrdd gwahanol o weithio mewn partneriaeth â chlybiau lleol a sefydliadau eraill er mwyn cynnal a darparu cyfleusterau chwaraeon lleol, ac rwy'n hynod falch fod trafodaethau'n digwydd gyda Clwb Rygbi Bridgend Athletic a Chlwb Rygbi Bridgend Sports. Bydd y bartneriaeth hon yn ffurfio rhan bwysig o'n gwaith i ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer Caeau Newbridge, sydd â'r nod o ddarparu cyfleusterau chwaraeon newydd sbon.
Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Cymunedau
Dyma ddywedodd Cadeirydd Clwb Rygbi Bridgend Athletic: "Mae Clwb Rygbi Bridgend Athletic wedi croesawu'r gwelliannau i'r Pafiliwn Newydd ac mae'n edrych ymlaen at weld Is-bwyllgor rhagweithiol Caeau Newbridge yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar y datblygiadau a gwelliannau arfaethedig i gyfleusterau.
"Mae'n beth calonogol iawn i ni fod y cyngor yn rhannu ein gweledigaeth am y potensial o gyfleusterau chwaraeon newydd sbon yng Nghaeau Newbridge, a fydd yn gynhwysol o ran rhywedd ac anabledd."
Mae Rhys Webb, a anwyd ym Mhen-y-bont yr Ogwr ac sy'n chwarae i Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, wedi cadw cysylltiad agos â'r clwb ac yn un o'r 60 o hyfforddwyr lefel 'mini' ac iau. Dywedodd: "Mae Clwb Rygbi Bridgend Athletic wedi bod yn rhan o fy mywyd ers cyn hired ag y gallaf gofio.
"Dyma ble ddechreuais i chwarae rygbi, a dyma ble mae fy meibion wedi dechrau chwarae rygbi hefyd. Mae'r clwb yn rhan anferth o fywydau llawer iawn o bobl ifanc ac rwy'n gobeithio mai felly fydd hi am amser maith.
"Er bod gan y tîm dŷ clwb, yn yr ystafelloedd newid ar ein cae cartref rydym wastad wedi cwrdd a pharatoi gyda'n gilydd i fynd allan ar y cae fel tîm.
"Mae'n dorcalonnus eu gweld mewn cyflwr mor wael, yn enwedig a minnau'n gwybod na fydd fy meibion yn gallu defnyddio'r ystafelloedd newid fel mae cymaint ohonom wedi dros y blynyddoedd, nac yn cael y budd o le i gysgodi rhag tywydd nodweddiadol rygbi Cymru - oer, gwyntog a gwlyb.
"Byddai ystafelloedd newid newydd yn golygu cymaint i holl aelodau'r clwb, ifanc a hen, ac yn rhoi teimlad o falchder mawr i chwaraewyr Bridgend Athletic pan fyddan nhw'n chwarae yn ein cartref yng nghaeau Newbridge.
"Rwyf nawr yn falch o ddeall bod fy nghlwb wedi bod yn gweithio'n galed ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nid yn unig i adfer y cyfleusterau presennol, ond hefyd ar gynllun hirdymor i ddarparu cyfleusterau newid a chwarae o safon uchel i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i dimau gystadlu dan yr un amodau â thimau eraill yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Chlwb Rygbi Bridgend Sports: "Mae ein clwb yn dyddio'n ôl i 1938 ac rydym yn chwarae ar gae'r Bandstand ac yn defnyddio cyfleusterau newid y Bandstand y tu ôl i'r Ganolfan Halo yng Nghaeau Newbridge.
"Mae pobl yn cysylltu cae'r Bandstand â phêl-droed rygbi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
"Ychydig iawn o fuddsoddi sydd wedi bod yn ystafelloedd newid y Bandstand dros nifer o flynyddoedd. Mae'r cyfle hwn, er bod cyfyngiadau iddo, yn caniatáu i unrhyw wariant fynd ychydig ymhellach, drwy ddefnyddio setiau sgiliau cyfunol y rhai sy'n gysylltiedig â'r clwb a chymorth technegol y cyngor.
"Mae gennym dros 300 o bobl ifanc yn chwarae i'r clwb ar bob lefel gyda'i gilydd, ac rydym yn glwb cartref ar gyfer rygbi genethod y fwrdeistref sirol gyfan. Ein huchelgais yw cael cyfleusterau cymunedol modern sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif i gefnogi datblygiad pobl ifanc, ar y cae ac oddi arno."